Cabinet yn cymeradwyo polisi diogelu wedi'i ddiweddaru
Poster information
Posted on: Dydd Iau 01 Gorffennaf 2021
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo polisi diogelu corfforaethol wedi’i ddiweddaru i helpu i sicrhau bod plant ac oedolion bregus yn cael eu diogelu rhag niwed.
Nod y Polisi Diogelu Corfforaethol yw cefnogi holl feysydd yr awdurdod lleol i sicrhau bod gweithdrefnau diogelu effeithiol yn cael eu rhoi ar waith.
Mae’r polisi’n ategu’r pwynt bod gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu, ond mae hefyd yn nodi cyfrifoldebau penodol ar gyfer pob Cynghorydd ac aelod o staff, yn ogystal â manylu ar sut y dylai diogelu gael ei adlewyrchu mewn trefniadau contractio a chomisiynu.
Mae hwn yn bolisi sy'n mynd ati mewn ffordd ataliol a rhagweithiol i ddiogelu, yn ogystal â sicrhau bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i amddiffyn pobl pan fydd pryderon difrifol yn codi.
Pwysleisir i’r eithaf mai cyfrifoldeb pawb yn y cyngor, ac yn wir pawb mewn cymdeithas, yw diogelu.
Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Am ragor o wybodaeth, cyngor ac adnoddau ar sut i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion bregus rhag niwed, ewch i wefan Diogelu Cwm Taf Morgannwg.