Cabinet yn cymeradwyo map rhwydwaith teithio llesol diwygiedig
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021
Mae map diwygiedig, sy’n amlinellu cynlluniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i greu rhwydwaith teithio llesol lleol, wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Roedd bron i £3.3. miliwn o arian ar gael i gefnogi’r cynllun, ac mae’r map uchelgeisiol yn ffurfio rhan o ymrwymiad yr awdurdod lleol i ddarparu rhwydwaith cynhwysol o seilwaith teithio llesol.
Bydd yn cynnig dewis gwych i drigolion sydd eisiau defnyddio ffyrdd amgenach o deithio, megis beicio neu gerdded.
Mae teithio llesol yn ffordd arall o deithio, yn hytrach na defnyddio cerbydau modur, ac mae’n cynnig cyfoeth o fuddion megis gwell iechyd a llesiant a chynhwysiant cymdeithasol, a llwybrau cerdded neu feicio ar gyfer pleser. Mae hefyd yn cynnig buddion amgylcheddol sy’n gysylltiedig â lleihau llygredd sŵn ac aer.
Mae’r map yn adlewyrchu safbwyntiau trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gasglwyd fel rhan o ymarferiad ymgynghori cyhoeddus helaeth, yn ogystal ag adborth o adolygiad rhagarweiniol a wnaed gan Lywodraeth Cymru.
Mae llwybrau teithio llesol yn dod yn fwyfwy poblogaidd, a byddant yn sicr yn dod yn rhan bwysig o seilwaith lleol ledled y DU. Yn ogystal â lleihau tagfeydd ac ysgwyddo baich ffyrdd lleol, maent yn cynnig teithiau mwy dibynadwy, arbed arian a chynnig buddion iechyd ac amgylcheddol. Rydym yn annog mwy o bobl i fyw bywydau actif, a bydd y map hwn yn ein helpu ni i ddarparu opsiynau iachach pellach o ran teithio pellteroedd byr, megis i’r ysgol neu’r siopau.
Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau