Cabinet yn cymeradwyo cytundeb diwygiedig gwasanaethau mabwysiadu
Poster information
Posted on: Dydd Iau 11 Mawrth 2021
Mae Cabinet Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i arwyddo cytundeb partneriaeth diwygiedig gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) yng Nghymru.
Sefydlwyd NAS gan Lywodraeth Cymru yn 2014, i wella gwasanaethau ar gyfer pobl oedd yn cael eu heffeithio gan fabwysiadu yng Nghymru, drwy uno gwasanaethau cenedlaethol a rhanbarthol.
Cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 9 Mawrth oedd yn datgan bod cytundeb partneriaeth newydd wedi cael ei lunio gyda'r nod o liflinio gwasanaethau er mwyn recriwtio mwy o deuluoedd posib sy'n awyddus i fabwysiadu a gwella cymorth ar ôl mabwysiadu.
Gwasanaeth Mabwysiadu Western Bay sy'n goruchwylio gwasanaethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac er gwaethaf yr heriau a godwyd yn sgil pandemig Covid-19, mae cynnydd wedi bod yn nifer y mabwysiadwyr a gymeradwywyd, yn cynnwys mwy o fewn y rhanbarth, sy'n golygu bod mwy o blant wedi gallu aros yn lleol.
Mae cynnydd hefyd wedi bod yn nifer yr ymholiadau gan fabwysiadwyr posib.
Rwy'n croesawu'r gwaith hwn i gynyddu'r cyfleoedd i blant dan ofal ddod o hyd i gartref sefydlog a pharhaol cyn gynted â phosib, ac i ddarparu cymorth i blant a theuluoedd er mwyn sicrhau bod y perthnasoedd hynny'n parhau.
Yn ystod y pandemig, mae cymorth wedi cael ei gynnig drwy grwpiau cefnogi ar-lein, ac mae bron i 550 o deuluoedd wedi derbyn rhyw fath o help gan y gwasanaeth yn ystod 2020-21.
Bydd y cytundeb newydd hwn yn helpu i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y sefydliadau sydd ynghlwm â'r gwaith. Mae hefyd yn ceisio helpu gwasanaethau plant rhanbarthol i ragweld ac ymateb yn well i newid mewn gofyn, a manteisio ar gyfleoedd allanol ar gyfer cynllunio ac ariannu gwasanaethau.
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett
Ewch i wefan Gwasanaeth Mabwysiadu Western Bay am ragor o wybodaeth am fabwysiadu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.