Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Ynni Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr newydd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 19 Ionawr 2022
Heddiw, cymeradwyodd Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddiweddariad i Gynllun Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr (LAEP) sy’n sicrhau ei fod yn cyd-fynd â thargedau datgarboneiddio cyfredol.
Lluniwyd y LAEP yn 2019 fel rhan o gyfraniad yr awdurdod lleol i Raglen Systemau Clyfar a Gwres Llywodraeth y DU a gafodd ei dylunio i greu cyfarpar arloesol fyddai’n galluogi gwres i gael ei ddatgarboneiddio ledled y DU erbyn 2050.
Mae LAEP Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn adnodd sy’n seiliedig ar ardal sy’n ystyried nodweddion lleol, megis mathau o adeiladau ac effeithlonrwydd ynni ffabrig, i greu llwybr tuag at ddatgarboneiddio.
Ond, yn dilyn penderfyniad y Cabinet yn ystod mis Chwefror 2019 i fabwysiadu’r LAEP, gwnaed newidiadau dynamig i bolisi ynni’r DU - yn bennaf, creu targed sero net 2050 - ac felly roedd angen diweddaru’r LAEP i adlewyrchu’r targed hwn yn y polisi.
Mae’r cynllun newydd yn cyd-fynd â tharged lleihau carbon sero net, yn ogystal ag ystyried y rôl all hydrogen ei chwarae o ran creu Pen-y-bont ar Ogwr sero net.
Mae’r gwaith o greu Pen-y-bont ar Ogwr sero net wedi cael ei amlinellu yn y LAEP newydd, ac mae’n cynnwys newid i seilwaith graddfa-lawn ar draws y fwrdeistref sirol dros y ddau ddegawd nesaf.
Mae bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain y ffordd o ran agenda Datgarboneiddio 2030. Rydym yn un o ddim ond dau awdurdod lleol yng Nghymru sy’n datblygu Rhwydwaith Gwres Ardal ac rydym yn un o ddim ond dau le yn y DU sy'n rhedeg ar gyfer model tanwydd hydrogen a thrydaneiddio ar gyfer ein fflyd.
Mae’n hynod gyffrous ein bod ni’n flaenllaw o fewn yr ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae llawer o weithredu'n digwydd nawr, ac wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gyda chefnogaeth yr aelodau.
Arweinydd y Cyngor, Huw David