Cabinet yn cefnogi prosiectau wrth wneud cais am gyllid gan Lywodraeth y DU
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 17 Tachwedd 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi pecyn o brosiectau a fydd yn cael ei gyflwyno am gais cyllid dan ail rownd Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.
Bwriad y gronfa, sydd werth £4.8 biliwn, yw buddsoddi mewn seilwaith sy'n gwella bywyd bob dydd ar draws y DU, yn cynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, prosiectau trafnidiaeth leol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth.
Yn ôl y rheolau, gall awdurdodau lleol dderbyn cyllid hyd at £20m am un cais yn unig ar gyfer pob etholaeth seneddol sy’n gyfan gwbl o fewn eu ffin. Fodd bynnag, gallant hefyd wneud un cais ychwanegol ar gyfer prosiectau strategol posibl yn eu hardal hyd at £50m. Rhaid i’r awdurdod lleol, neu gorff grant allanol arall, fel Cronfa Treftadaeth y Loteri, gynnig o leiaf 10 y cant o gyllid cyfatebol ar gyfer pob prosiect.
O ganlyniad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu gwneud cais am dri phrosiect arall. Sef:
Etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr: Ail-ddatblygu Pafiliwn y Grand Porthcawl
Nod cynlluniau ailddatblygiad Pafiliwn y Grand Porthcawl yw gwella’r adeilad rhestredig Gradd II ac ychwanegu ystod o gyfleusterau newydd, gan gynnwys ystafelloedd digwyddiadau, ardal gaffi a digwyddiadau ar y to a fydd yn cynnig golygfeydd uchel tua’r môr, theatr stiwdio, swyddfeydd, ardaloedd gweithdy neu ddeori busnes a gwell cyfleusterau toiledau, gan gynnwys cyfleusterau newid newydd.
Mae’r cynlluniau, a ddatblygwyd ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, wedi bod ar y gweill ers 2016, ac mae astudiaethau dichonoldeb wedi’u cynnal.
Etholaeth Ogwr: Prosiect Datblygu Menter Pen-y-bont ar Ogwr
Nod y prosiect hwn yw rhoi cymorth i amrywiaeth o sectorau economaidd yng Nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr drwy gynnig safleoedd ar gyfer busnesau newydd, cymorth yn ystod blynyddoedd cynnar masnachu a helpu i gael mynediad at farchnadoedd a chadwyni cyflenwi newydd.
Ei nod yw ateb y galw presennol sylweddol am ardal ar gyfer mentrau bach/micro a gwella cyflogaeth.
Cynnig Strategol Pen-y-bont ar Ogwr Pont Reilffordd Penprysg
Bydd y prosiect hwn yn golygu ailadeiladu pont ffordd Penprysg i fod yn addas ar gyfer llif traffig ddwy ffordd, gan arwain at gau croesfan Pencoed yn y pen draw, a chreu pont teithio llesol newydd sbon ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Mae’n cael ei ddatblygu ar y cyd â Network Rail, a thrwy weithgor sy’n cynnwys gwleidyddion lleol, Trafnidiaeth Cymru a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Yn brosiect seilwaith hirdymor ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar gyfer y cynnig.
Dyma becyn cyffrous o brosiectau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r fwrdeistref sirol yn gyffredinol, yn ogystal ag i’r trefi a’r dyffrynnoedd y maent wedi’u lleoli ynddynt.
Gan fod y rheolau ond yn caniatáu un gymeradwyaeth fesul etholaeth dros hyd y rhaglen gyllido, rydym eisiau sicrhau bod ceisiadau cynhwysfawr yn cael eu gwneud ar brosiectau allweddol y gellir eu cyflwyno o fewn yr amserlen benodol.Gan fod y rheolau ond yn caniatáu un gymeradwyaeth fesul etholaeth dros hyd y rhaglen gyllido, rydym eisiau sicrhau bod ceisiadau cynhwysfawr yn cael eu gwneud ar brosiectau allweddol y gellir eu cyflwyno o fewn yr amserlen benodol.
Rydym wedi cwrdd ag ASau Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr, ac roedd y ddau yn hynod gefnogol o’r prosiectau sy’n cael eu cynnig. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner perthnasol i ddatblygu’r prosiectau yn ôl yr angen er mwyn eu cyflwyno ar gyfer rownd nesaf y cyllid.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet y cyngor dros Gymunedau