Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith effeithlonrwydd ynni

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i fynd i'r afael â materion a gododd o ganlyniad i amrywiaeth o raglenni effeithlonrwydd ynni domestig a hyrwyddwyd drwy ward Caerau yn 2012-2013.

Er bod rhywfaint o arian ar gyfer y gwaith hwn yn cael ei weinyddu drwy'r cyngor fel rhan o'r cynllun Arbed a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, cafodd gwaith ei hyrwyddo a'i wneud yn annibynnol hefyd gan y contractwr, Green Renewable Wales Ltd, ac is-gontractwyr amrywiol.

Ariannwyd hyn gan gwmnïau ynni fel rhan o gynlluniau'r Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol (CESP) a'r Targed Lleihau Allyriadau Carbon (CERT) – dwy fenter genedlaethol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i sicrhau cyfraniadau gan gwmnïau ynni tuag at waith arbed carbon mewn ardaloedd a nodwyd eu bod yn wynebu'r risg fwyaf o dlodi tanwydd.

Er mai dim ond ar nifer fach o eiddo a oedd yn rhan o'r cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a weinyddwyd gan y cyngor o ran cyllid ar gyfer y gwaith, mae'r awdurdod yn parhau i geisio datrysiad hollgynhwysol sy'n ceisio mynd i'r afael â phob un o'r 150 o gartrefi yr effeithiwyd arnynt yng Nghaerau, waeth pwy wnaeth y gwaith neu p’un a gafodd ei ariannu drwy Arbed, CERT neu CESP.

Gweinyddodd y cyngor gyllid ar gyfer 25 o'r 104 o gartrefi yng Nghaerau a dderbyniodd waith inswleiddio waliau mewnol ac allanol, a phenododd Green Renewable Wales Ltd fel prif gontractwr y gwaith.

Cadarnhaodd arolwg gan arbenigwyr annibynnol NuVision Energy Wales, a gynhaliwyd i fesur a gwerthuso effeithiolrwydd y gwaith, fod gan lawer o'r eiddo broblemau sylweddol.

Ers derbyn canlyniadau'r adroddiad annibynnol, mae'r cyngor wedi cysylltu â phob un o'r cwmnïau ynni sy'n rhan o'r cynllun, ac wedi cyfarfod ag uwch swyddogion Llywodraeth Cymru a rheoleiddwyr ynni OFGEM.

Mae'r cyngor wedi argymell, er mai'r gwaith a wneir o dan y mentrau CESP a CERT sy'n bennaf gyfrifol am y prif faterion, fod angen datrysiad hollgynhwysol a ddylai anelu at fynd i'r afael â'r mater yn ei gyfanrwydd.

Dywedodd y Prif Weithredwr Mark Shephard: "Er nad oes unrhyw amheuaeth bod diffygion o fewn rhaglen effeithlonrwydd ynni domestig genedlaethol wreiddiol Arbed, mae hyn yn parhau i fod yn rhan gymharol fach o'r mater cyffredinol, ac mae'n amlwg bod y rhan fwyaf o'r gwaith problemus wedi'i wneud o dan fentrau CERT a CESP.

"Yn dilyn ein trafodaethau, mae Llywodraeth Cymru yn codi'r mater yn ffurfiol gyda gweinidogion, ac mae wedi cytuno i gysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau dealltwriaeth lawn ac i ofyn am eu hymyriad er mwyn mynd i'r afael â'r materion presennol.

"Mae hwn yn parhau i fod yn fater anodd a chymhleth, ac mae'n amlwg bod angen gwneud mwy o waith. Rydym yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn fy ngalluogi i ddod yn ôl i'r Cabinet gyda datrysiad cynhwysfawr y cytunwyd arno.

"Os na fydd datrysiad hollgynhwysol yn cael ei wireddu, byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer y 25 eiddo lle'r oedd y cyngor yn ymwneud â gweinyddu cyllid ar gyfer y gwaith inswleiddio waliau mewnol ac allanol fel mater o flaenoriaeth."

Mae'n galonogol gwybod bod Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac OFCOM i gyd mewn trafodaethau ynghylch sut y gellir datrys y materion ers i ni drafod y problemau sydd wedi codi o raglen effeithlonrwydd ynni 2012-13 ddiwethaf.

Mae hyn yn gwneud synnwyr perffaith o ystyried bod yr adroddiad annibynnol wedi cadarnhau bod y rhan fwyaf o'r gwaith problematig wedi'i wneud o dan fentrau CERT a CESP yn hytrach na'r hyn a gomisiynwyd yn uniongyrchol gan y cyngor drwy Arbed. Hoffwn sicrhau trigolion perthnasol Caerau bod y cyngor yn parhau i gymryd y mater o ddifrif, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r gymuned.

Rwy'n edrych ymlaen at gael diweddariadau pellach, ac rwy'n parhau i fod yn obeithiol y bydd y datrysiad hollgynhwysol ar gael cyn bo hir o ganlyniad i'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y