Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cael gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad i wneud addasiadau rheoledig i Ysgol Heronsbridge

 Bu i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gwrdd yr wythnos hon i drafod canlyniad yr ymgynghoriad i wneud addasiad rheoledig a symud Ysgol Heronsbridge i Island Farm.  Canfu'r ymgynghoriad y byddai symud yn cael effaith gadarnhaol ar yr holl ddysgwyr, staff ac ymwelwyr.

Byddai'r ysgol newydd yn cael ei chynllunio i gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 yn llwyr, a byddai'n seiliedig ar ganllawiau ardal ar gyfer ysgolion arbennig.

Oherwydd ei leoliad a'i maint, cafodd safle Island Farm ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei adnabod fel y mwyaf addas ar gyfer yr ysgol arfaethedig hon. Ni fydd datblygiad yr ysgol yn effeithio ar Gwt 9, cyn-Wersyll Carcharorion Rhyfel, sy'n adeilad rhestredig, o gwbl.

Mae buddion ychwanegol sylweddol ynghlwm â chynnig Ysgol Heronsbridge newydd a mwy ei maint.

  • Mwy o leoedd ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Llai o ddysgwyr yn cael eu hanfon i ysgolion y tu hwnt i'r sir (mae hyn yn ddrud, ac yn aml yn gorfodi disgyblion i dreulio peth amser yn teithio).
  • Llety addas a digonol, sy'n cwrdd ag anghenion y mwyafrif o'r dysgwyr mwyaf bregus.
  • Cyfleusterau newydd, gan gynnwys pwll nofio, ystafell gerdd, ystafelloedd therapi adlamu, llyfrgell, perllan, trac rhedeg a siop goffi.
  • Mae'r safle arfaethedig tua un filltir oddi wrth safle presennol yr ysgol, ac felly, nid oes disgwyl y bydd unrhyw effaith sylweddol ar drafnidiaeth i ddisgyblion.

Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfrannu at ddyluniadau'r ysgol newydd, a fydd yn cynnwys technegau adeiladu ecogyfeillgar.

Wrth siarad yn ystod yr ymgynghoriad, dywedodd Jeremy Evans, pennaeth Heronsbridge: "Mae adeilad presennol Ysgol Heronsbridge wedi gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr yn dda. Bydd yr adeilad yn gwrthsefyll effaith amser, ond nid yw'n gwbl addas ar gyfer y disgyblion sydd gennym ar hyn o bryd.

"Rwyf eisiau cymryd y gwerthoedd, ethos a diwylliant sydd gennym yma draw i'r ysgol newydd. Rwyf eisiau dod â'r holl gyfleusterau gyda ni i'r ysgol newydd. Rwyf eisiau ystafelloedd dosbarth cynnes, sych a diogel, a choridorau mawr, lle gall disgyblion symud o gwmpas yn ddiogel. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn cael y gorau o bopeth. Mae newid yn beth brawychus, ond mae'r cyfle hwn yn un cyffrous."

Penderfyniad y Cabinet fydd sut caiff safle presennol Ysgol Heronsbridge ei ddefnyddio yn y dyfodol, ar ôl cynnal gwerthusiad o opsiynau. Mae prif adeilad yr ysgol hefyd wedi'i restru'n ddiweddar gan Cadw.

Mae ail-leoli Heronsbridge yn rhan o'r rhaglen moderneiddio ysgolion gwerth £68 miliwn, a fydd yn gweld ysgolion newydd a gwell cyfleusterau addysgol yn cael eu hadeiladu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd ail-leoli ac ail-adeiladu Ysgol Heronsbridge yn sicrhau bod disgyblion yn cael yr help, cymorth ac addysg maent yn eu haeddu a'u hangen.

Mae prosiect moderneiddio'r ysgol yn gyfle gwych i symud oddi wrth y dull o ôl-osod adeilad rhestredig, hŷn, tuag at gynnig ysgol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy'n addas ar gyfer anghenion modern.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell

Chwilio A i Y