Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet y Cyngor i drafod cynigion cyllid grant ychwanegol

Bydd aelodau o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd yr wythnos nesaf i drafod cynigion ynghylch sut fydd cyllid grant ychwanegol y cyngor yn cael ei rannu i gefnogi'r unigolion hynny y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio arnynt fwyaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1.2m o gyllid i'r awdurdod er mwyn cynnig cymorth ariannol i aelwydydd a helpu i leddfu straen yr argyfwng costau byw.

Bydd y cyngor yn penderfynu ar fanylion ei gronfa cymorth ychwanegol, a fydd yn cael ei rannu ymysg yr holl aelwydydd cymwys.

Mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod cabinet y cyngor ddydd Mawrth nesaf, 13 Medi, bydd yr aelodau'n penderfynu sut i rannu'r cyllid ymysg aelwydydd targed penodol, sydd wedi'u nodi fel yr aelwydydd sydd fwyaf mewn angen cymorth ariannol.

Bydd y grwpiau hynny yn cynnwys aelwydydd sy'n derbyn gostyngiad band anabledd yn y dreth gyngor a'r rheiny sydd wedi'u heithrio oherwydd nam meddyliol sylweddol, pobl sy'n gofalu am rywun, neu sy'n cael gofal, unigolion sy'n gadael gofal, unigolion dan 18 oed sy'n byw ar eu pen eu hunain a myfyrwyr llawn amser.

Bydd aelwydydd bandiau E ac F y dreth gyngor nad ydynt yn derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor hefyd yn cael cymorth.

Bydd taleb un-tro gwerth £50 hefyd yn cael ei gynnig ar gyfer unigolion a theuluoedd sy'n byw mewn llety dros dro, ynghyd â thaleb gwerth £50 i bob plentyn unigol sy'n cael prydau ysgol am ddim.

Mae'r cynllun ychwanegol arfaethedig wedi'i anelu at yr aelwydydd hynny sydd fwyaf mewn perygl o brofi tlodi yn ystod yr argyfwng costau byw.

Ni fydd y cynllun yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill mae aelwydydd cymwys yn eu cael ar hyn o bryd na thaliadau'r dreth gyngor sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd.

Bydd y rhan fwyaf o'r arian cymorth ychwanegol yn cael ei dalu'n awtomatig i aelwydydd drwy daliadau uniongyrchol, gyda'r aelwydydd sy'n weddill yn cael llythyr neu e-bost yn gofyn am eu manylion banc er mwyn gwneud y taliad.

Ar 1 Awst 2022, disgwylir i daliadau uniongyrchol ddechrau cael eu gwneud i aelwydydd cymwys o 1 Hydref 2022, pan fo disgwyl i'r cynllun arfaethedig ddechrau. Disgwylir i'r cynllun redeg tan 31 Mawrth 2023.

Mae'r cyngor yn annog trigolion i beidio â chysylltu â nhw dros y ffôn na dros e-bost nes bod y cynllun wedi'i gymeradwyo ar ôl cyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf.

Bydd rhagor o fanylion am y cynllun, gan gynnwys tudalennau gwe penodedig gydag adran cwestiynau cyffredin, ar gael ar wefan y cyngor ar ôl cyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf.

Os oes angen unrhyw help arnoch chi, cysylltwch â'r cyngor ar ôl i'r cynllun gael ei lansio, anfonwch e-bost at: col@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643643.

Chwilio A i Y