Cabinet wedi ei ddiweddaru ar Gynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar gyfer Stryd y Parc
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 08 Mawrth 2022
Diweddarwyd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar Gynllun Gweithredu Ansawdd Aer drafft ar gyfer Ardal Rheoli Ansawdd Aer Stryd y Parc.
Cadarnhaodd adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn Nhachwedd 2021 bod ansawdd aer o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gyffredinol, yn parhau i fodloni amcanion Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, roedd Stryd y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn destun pryder gyda systemau monitro mewn safleoedd wedi’u lleoli ar hyd y stryd yn dangos bod lefelau cyfartalog o nitrogen deuocsid yn parhau i fynd y tu hwnt i’r amcan ansawdd aer cyfartalog blynyddol.
Bu’r awdurdod lleol yn gweithio gyda’r Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir (SRS) ar gynllun gweithredu i wella ansawdd aer yn yr ardal gyda modelu manwl o’r opsiynau lliniaru arfaethedig bellach wedi’i gwblhau.
Mae’r opsiynau hyn yn cynnwys cyflwyno lôn ddal er mwyn troi i’r dde ar gyffordd Stryd y Parc ger Heol y Nant – mesur a weithredir eisoes yn dilyn datblygiad cyn-safle Ysgol Bryn Castell. Mae opsiynau eraill yn cynnwys atal mynediad i St Leonards Road o Stryd y Parc ac optimeiddio cyffordd Stryd y Parc/Stryd yr Angel/ Heol Tondu.
Roedd modelu’r lôn ddal er mwyn troi i’r dde wedi dangos lleihad yn y tagfeydd ar Stryd y Parc o gerbydau’n troi i’r dde am Heol-y-Nant ac mae’n darparu gwelliant mewn crynodiadau nitrogen deuocsid ar Stryd y Parc o’i gymharu â 2019.
Dengys canlyniadau pellach o fodelu ansawdd aer, petai’r mesurau hyn yn cael eu gweithredu, y gallai cydymffurfiad â’r amcan ansawdd aer cyfartalog blynyddol ar gyfer nitrogen diocsid mewn safleoedd monitro presennol gael ei gyflawni erbyn diwedd 2023.
Mae’r modelu wedi dangos y manteision posib o weithredu’r opsiynau lliniaru awgrymedig er mwyn bodloni’r amcanion ansawdd aer ar Stryd y Parc fel y gosodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Caiff cynllun drafft ei addasu nawr er mwyn adlewyrchu canlyniadau’r modelu cyn iddo gael ei wneud yn destun ymgynghoriad cyhoeddus wedi etholiadau’r awdurdod lleol ym Mai 2022, gan roi’r cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer gwelliannau ansawdd aer yn yr ardal.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Ar gyfer unrhyw sylwadau neu ymholiadau mewn perthynas ag ansawdd aer, cysylltwch â SRS drwy anfon e-bost at AirQuality-SRSWales@valeofglamorgan.gov.uk.