Cabinet i ystyried cynnig ar gyfer ysgol egin cyfrwng Cymraeg newydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 09 Medi 2021
Bydd aelodau'r Cabinet yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried cynnig a allai arwain at ddatblygu ysgol egin cyfrwng Cymraeg newydd sbon pan fyddant yn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch cam nesaf ei chynllun grant cyfalaf i addysg cyfrwng Cymraeg, gofynnir i aelodau'r Cabinet roi eu cymeradwyaeth i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb mewn defnyddio'r cyllid i sefydlu ysgol egin newydd.
Os cytunir, bydd y cyngor yn archwilio opsiynau i ychwanegu'r ysgol egin at gynlluniau presennol sy'n anelu at greu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd yn ardal Porthcawl.
Mae'r Cabinet wedi rhoi cymeradwyaeth mewn egwyddor yn flaenorol i ddatblygu ysgol mynediad un dosbarth cyfrwng Cymraeg i wasanaethu ardal Porthcawl fel rhan o'i raglen moderneiddio ysgolion, barhaus, sy'n alinio â'r Cynllun Adfywio Porthcawl.
Yn ogystal ag adlewyrchu twf disgwyliedig yn ardal Porthcawl, byddai lleoli'r ysgol a'r cyfleusterau gofal plant yn yr un lleoliad yn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o unrhyw gyllid y gallai'r cynllun ei ddarparu, a byddai hefyd yn darparu dilyniant naturiol o'r ddarpariaeth gofal plant i'r ysgol egin.
- Bydd y Cabinet yn cwrdd i drafod y cynnig ac a ddylid cyflwyno mynegiant o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru ar ddydd Mawrth 14 Medi.