Cabinet i ystyried cynllun strategol ar gyfer gofal cymdeithasol i blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 07 Chwefror 2022
Yn ei gyfarfod yfory, bydd cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried cynllun strategol dros dair blynedd ar gyfer gofal cymdeithasol i blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r cynllun yn nodi diben gofal cymdeithasol i blant yn y fwrdeistref sirol ac yn pwysleisio pwysigrwydd diwylliant, ymddygiad, a gwerthoedd wrth gyflawni'r diben hwnnw. Diben y cynllun yw:
Gweithio gyda’n gilydd i alluogi canlyniadau gwell i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd drwy gysylltiadau cryf, arfer effeithiol a gwasanaethau prydlon ac ymatebol, sy’n cefnogi plant a theuluoedd i fyw gyda’i gilydd (pan fo hynny’n bosibl), i weithio i leddfu anawsterau a diogelu plant rhag niwed’
Mae’r cynllun strategol yn nodi camau ar gyfer y tair blynedd nesaf. Yn ogystal â manylu ar y camau sydd eu hangen, mae’r cynllun hefyd yn nodi’r mesurau fydd yn cael eu defnyddio i ddeall cynnydd. Blaenoriaethau’r cynllun yw:
- Gweithlu cadarn, parhaol a brwdfrydig, sydd wedi’i gefnogi’n ddigonol
- Arfer gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfder, sy’n cefnogi plant a theuluoedd i aros gyda’i gilydd (pan fo hynny’n bosibl) a diogelu plant rhag niwed
- Gwasanaethau ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Gweithio mewn partneriaethau di-dor ar lefel strategol a gweithredol
- Gwrando er mwyn gweithredu ar ran llais plant a theuluoedd
Bydd y cynllun yn mynd i’r afael â rhai o’r materion sylweddol sy’n wynebu ein plant a theuluoedd mwyaf bregus, a’r gwasanaethau fydd yn eu diogelu a’u cefnogi nhw.
Mae effaith pandemig Covid-19 ar wasanaethau gofal cymdeithasol sylfaenol i blant yn dechrau dod i’r amlwg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ym mis Rhagfyr 2021, roedd cynnydd o 40 y cant yng nghysylltiadau â gofal cymdeithasol i blant, o gymharu â mis Ionawr 2021, yn ystod y cyfnod clo. Mae gwaith sicrhau ansawdd hefyd wedi tynnu sylw at gynnydd yng nghymhlethdod y materion y mae plant a theuluoedd yn eu cyflwyno i wasanaethau gofal cymdeithasol i blant.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi wynebu heriau sydd wedi’u profi ledled y wlad o ran cyfraddau cadw a recriwtio gweithwyr cymdeithasol i blant, gyda chyfraddau swyddi gwag ar draws gwasanaethau plant o thua 30 y cant. Mae’r cynllun yn nodi uchelgais, a chamau penodol i gyflawni gweithlu parhaol, brwdfrydig, sydd wedi’i gefnogi’n ddigonol.
Nod y cynllun, a’r diwylliant a gwerthoedd ategol, yw sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn medru denu a chadw gweithwyr cymdeithasol.
Bydd y Cabinet yn cyfarfod i drafod y cynllun am 2.30pm ddydd Mawrth 8 Chwefror 2022.