Cabinet i drafod rhaglen gyfalaf ddiwygiedig
Poster information
Posted on: Dydd Llun 07 Chwefror 2022
Yn ei gyfarfod yr wythnos hon, bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trafod rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 i 2030/31.
Cymeradwyodd y Cyngor raglen bresennol y cyfnod ar ddechrau’r flwyddyn, a daeth y cyfanswm i £211.439m, y mae adnoddau’r awdurdod lleol am gyfrannu £118.094m tuag ato, gyda’r £94.345m sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol.
Ond bydd rhaglen ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno gerbron y Cabinet yr wythnos hon, sy’n cynnwys nifer o gynlluniau cyfalaf newydd ac yn adlewyrchu pwysau ariannol ar sawl cynllun cyfalaf sy’n codi o ganlyniad i amodau’r farchnad bresennol, sydd wedi cael ei heffeithio gan y pandemig a Brexit.
Mae cynlluniau newydd y mae disgwyl iddynt gael eu cynnwys yn y rhaglen ddiwygiedig yn cynnwys cyllid i brynu cerbydau trydanol fel rhan o’r nod o gyrraedd carbon sero net erbyn 2030, cyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu cynlluniau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, mewn perthynas ag ailddatblygiad hen Ystâd Ddiwydiannol Heol Ewenni a chyllid i gynnig llety ychwanegol ar gyfer Ysgol Arbennig Pont y Crychydd.
Bydd y Cabinet yn cyfarfod i drafod y rhaglen gyfalaf ddiwygiedig am 2.30pm ddydd Mawrth 8 Chwefror 2022. Os yw’n cael ei chymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor ar 9 Chwefror.