Cabinet i drafod cymorth ychwanegol ar gyfer cynllun insiwleiddio waliau
Poster information
Posted on: Dydd Iau 03 Chwefror 2022
Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd yr wythnos nesaf i drafod cynigion i gyflwyno achos busnes manwl i Lywodraeth Cymru ynghylch sut mae’n bwriadu hwyluso dros £2.65m o gyllid er mwyn ymgymryd â gwaith inswleiddio waliau adferol yng Nghaerau.
Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu, mewn egwyddor, gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â gwaith a gynhaliwyd rhwng 2012-2013, ond a oedd yn arddangos diffygion amlwg yn fuan wedyn. Er mwyn sicrhau’r cyllid, rhaid i’r cyngor gyflwyno ei achos busnes erbyn 28 Chwefror.
Bydd gofyn i aelodau’r Cabinet hefyd gymeradwyo argymhelliad i’r Cyngor llawn er mwyn gofyn bod yr awdurdod yn cyfrannu £850,000 ychwanegol at y gwaith, gan ddod â chyfanswm cyllid y rhaglen i £3.5m.
Gyda thrafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU, mae’r adroddiad yn argymell y dylid dyfarnu cyllid ychwanegol o gynllun ‘Eco’ Llywodraeth y DU i’r rhaglen, er mwyn lleihau cost gyffredinol pob cyfrannwr.
Mae’r adroddiad yn amlinellu sut oedd cynlluniau fel Arbed a’r Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol yn rhan o fentrau gan y Llywodraeth 10 mlynedd yn ôl, a oedd yn darparu mathau amrywiol o gyllid y gellid eu defnyddio gan gynghorau, cwmnïau ynni, contractwyr a sefydliadau eraill er mwyn cyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni.
Er bod y cyngor wedi defnyddio’r cynllun Arbed yn 2012-2013 i weinyddu’r cyllid ac i benodi contractwr i ddarparu insiwleiddiad wal ar gyfer 25 eiddo yng Nghaerau, nid oedd yn ymwneud â’r 79 eiddo arall a gafodd y gwaith wedi’i wneud dan y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol.
Os yw’n cael ei gymeradwyo, bydd y cyllid cyffredinol yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r diffygion yn y gwaith insiwleiddio waliau ym mhob un o’r 104 o eiddo. Bydd y Cabinet yn cyfarfod i drafod yr adroddiad am 2.30pm ddydd Mawrth 8 Chwefror 2022.