Cabinet i drafod £8.8m ychwanegol ar gyfer addysg, glanhau strydoedd, atgyweirio ffyrdd a mwy
Poster information
Posted on: Dydd Llun 13 Ionawr 2020
Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried cynigion cyllideb ar gyfer 2020-21 a allai arwain at fuddsoddiad ychwanegol gwerth £8.8m mewn ysgolion, cynnal priffyrdd, glanhau strydoedd, gwasanaethau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol a mwy.
Diolch i ffigur setliad uwch na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynigion hefyd yn cynnwys cynnydd yn y dreth gyngor sydd wedi’i lleihau’n sylweddol o 6.5 y cant i 4.5 y cant.
Mae adroddiad a fydd yn cael ei drafod yn y Cabinet ddydd Mawrth 14 Ionawr yn amlinellu sut mae'r cynnydd yn setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu £8.8m ychwanegol, sy’n golygu bod gan y cyngor ddiffyg o £2.4m yn ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn.
Mae hyn yn golygu, er bod y cyngor yn dal i wynebu gorfod gwneud toriadau i wasanaethau, ni fydd rhai o’r gostyngiadau a gynlluniwyd ar gyfer 2020-21 yn angenrheidiol mwyach, a bydd modd eu newid neu eu gohirio, yn ddibynnol ar ganlyniad setliadau yn y dyfodol.
Mae’r amlycaf o’r cynigion hyn – sef gostyngiad o un y cant mewn cyllid ysgolion – yn cael ei dynnu’n ôl, a bydd ysgolion hefyd yn cael £4m ychwanegol i’w helpu i ddelio â phwysau cyllidebol, fel gorfod ariannu anghenion dysgu ychwanegol, mwy o ddisgyblion, dyfarniadau pensiwn a chyflogau athrawon, a mwy.
Mae’r cynigion eraill sy’n cael eu tynnu’n ôl neu eu diwygio yn cynnwys y cynlluniau i ddileu dysgu oedolion yn y gymuned, canolfan ailgylchu gymunedol a’r gwasanaeth teledu cylch cyfyng, yn ogystal â chynlluniau i leihau’r cyllid ar gyfer glanhau strydoedd, priffyrdd, ysgolion busnes dros dro a mwy.
Oherwydd bod y setliad gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn well na’r disgwyl, rydyn ni wedi gallu ailedrych ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus eang a gynhaliwyd y llynedd, ac rydyn ni wedi ailwampio cynigion y gyllideb i adlewyrchu safbwyntiau pobl i'r graddau mwyaf posibl
Ar hyn o bryd mae’r dreth gyngor yn ariannu oddeutu 30 y cant o’n gwasanaethau, ac mae’n dal i fod yn ffynhonnell gyllid bwysig. Dangosodd yr ymgynghoriad y byddai 64 y cant o bobl yn fodlon talu 6.5 y cant yn fwy o dreth gyngor, felly drwy bennu’r lefel ar 4.5 y cant, mae’r setliad wedi’n helpu ni i gael cydbwysedd rhwng cynnydd teg a diogelu gwasanaethau hanfodol yn barhaus.
Fodd bynnag, mae'r sefyllfa o ran cyllid ar ôl 2021 yn llai sicr o lawer. Nid yw’r cyni drosodd, a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn diogelu ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Serch hynny, mae’r setliad hwn wedi’n helpu ni i sicrhau bod ein strategaeth ar gyfer y gyllideb yn dal yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn gallu mynd i’r afael â phob her y byddwn yn ei hwynebu.
Dirprwy Arweinydd, Hywel Williams
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am wrando ar ein pryderon ynghylch y pwysau anferth a wynebir gan wasanaethau rheng flaen, fel ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.
“Rwy’n arbennig o falch fod y setliad wedi’n galluogi ni i ddatblygu cynigion sy’n ceisio amddiffyn gwasanaethau allweddol, fel y cynnydd o £4m mewn cyllid ar gyfer pob ysgol, a chymorth i blant ag anghenion addysgol ychwanegol.
“Bydd y cynigion hyn, sydd i’w gweld ar wefan y cyngor, yn cael eu hystyried yn ofalus gan y Cabinet cyn cael eu hadolygu’n fanwl gan gynghorwyr y pwyllgorau craffu a throsolwg, wedyn bydd fersiwn terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn fis nesaf.”
Cadwch lygad am fwy o fanylion yn fuan.