Byddwch yn ymwybodol o 12 sgam y Nadolig
Poster information
Posted on: Dydd Llun 14 Rhagfyr 2020
Anogir preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gadw llygad am sawl sgâm sy'n cylchredeg ar yn o bryd wrth i'r Nadolig agosáu.
Mae twyllwyr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i annog pobl i drosglwyddo arian, manylion banc a gwybodaeth gyfrinachol iddynt - o honni eu bod yn staff y cyngor a sefydlu elusennau ffug i anfon hysbysiadau danfon ffug a negeseuon e-bost gwe-rwydo.
I'ch cynorthwyo chi i gadw'n ddiogel dros y Nadolig, dyma grynodeb o 12 sgâm y Nadolig y dylech gadw llygad amdanynt.
Sgam #1: Sgamiau ad-daliadau
Efallai cewch e-bost neu neges destun yn honni ei bod gan y cyngor neu sefydliad arall sy'n addo ad-daliad credyd neu dreth a dolen i bwyso arni i hawlio'r arian yn ôl. Byddant yn gofyn am fanylion banc - peidiwch â'u rhoi iddynt.
Sgam #2: Gwefannau ffug, tebyg
Eleni yn fwy nag erioed, rydym yn prynu anrhegion ar-lein. Weithiau mae troseddwyr yn sefydlu gwefannau ffug sy'n edrych yr un fath er mwyn dwyn manylion personol ac arian. Mae cyfeiriadau gwefannau diogel yn dechrau gyda 'https' ac yn dangos clo.
Sgam #3: Negeseuon e-bost gwe-rwydo
Meddyliwch cyn clicio.
Sgam #4: Sgamiau dros y ffôn
Mae troseddwyr yn ffonio i drafod pwnc ac yn gofyn i chi bwyso rhif ar eich ffôn. Peidiwch - bydd yn achosi costau enfawr y bydd y troseddwyr yn elwa ohonynt.
Sgam #5: Sgamiau cardiau rhodd
Wedi cael e-bost gan gyfaill yn gofyn i chi brynu cardiau rhodd iddo? Mae troseddwyr yn honni bod yn bobl yr ydych chi'n eu hadnabod er mwyn eich annog i wneud hyn. Maent yn chwilio am y cod ar y cerdyn er mwyn gwario'r arian.
Sgam #6: Sgamiau Brexit
Gall troseddwyr gysylltu â dioddefwyr i awgrymu gwneud buddsoddiadau 'colli dim' i elwa ar Brexit. Maent hefyd yn honni eu bod o CThEM i gael taliadau gan fusnesau am gofrestru ar gyfer masnachu.
Sgam #7: Hysbysiadau danfon ffug
Mae'n bosibl bod sawl pecyn yn cael ei ddanfon i'ch tŷ yn ystod mis Rhagfyr. Mae troseddwyr yn anfon negeseuon e-bost gwe-rwydo yn honni eu bod yn gwmni danfon adnabyddus gan obeithio y gwnewch chi fewngofnodi a rhannu'ch manylion. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, anwybyddwch yr e-bost a chysylltwch drwy wefan ddiogel, swyddogol y cwmni.
Sgam #8: Sgamiau Covid-19
Wedi cael llythyr gan y cyngor yn eich adnabod fel cyswllt i achos positif o Covid-19? Bydd y cyngor yn darparu cyngor ar hunanynysu a sut i archebu prawf coronafeirws. Ni fyddant yn gofyn am fanylion personol.
Sgam #9: Elusennau ffug
Cadwch lygad am droseddwyr yn defnyddio enwau elusennau cyfreithiol i apelio am rodd. Gofynnwch am gael gweld eu rhif elusen swyddogol y mae'n ofynnol iddynt ei gario. Rhowch ffydd yn eich greddf.
Sgam #10: Sgamiau e-gardiau
Byddwch yn ofalus gyda'r e-gardiau a gewch ar-lein. Gallai fod yn llawn feirws a allai gau eich dyfais a gallech gael eich bygwth er mwyn cael eich ffeiliau yn ôl. Ceisiwch feddalwedd gwrthfeirysau i'ch hysbysu.
Sgam #11: Rhamant ffug
Yn chwilio am gariad ar-lein? Mae troseddwyr wrthi hefyd... y berthynas yn datblygu dros amser a'r unigolyn yn cael ei ddarbwyllo i wneud taliadau iddynt. Peidiwch - maent eisiau eich hunaniaeth hefyd. Diogelwch eich preifatrwydd.
Sgam #12: Sgamiau siopa
Wrth eich bodd â brandiau drud am brisiau isel? Cadwch lygad am nwyddau ffug. Mae'r rhain yn amrywio o ddillad o ansawdd wael i offer trydanol peryglus nad ydynt yn cydymffurfio â deddfau diogelwch. Os yw bargen yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg bod eich amheuon yn gywir.
Byddwn yn annog preswylwyr i fod yn ofalus ac ymwybodol o'r sgamiau creulon hyn sydd wedi'u hanelu at gymryd arian neu ddwyn hunaniaethau.
Mae troseddwyr yn defnyddio pob mathau o ffyrdd i dargedu dioddefwyr - cnocio ar ddrysau, dros y ffôn, anfon llythyrau neu ar-lein. Byddwch yn wyliadwrus bob amser a chymerwch amser wrth ystyried rhywbeth.
Peidiwch â chaniatáu i unrhyw un eich rhuthro, sicrhewch eich bod yn gwybod gyda phwy ydych chi'n siarad, a pheidiwch â bod yn ofn cau'r drws, rhoi'r ffôn i lawr, ei finio a'i ddileu. Peidiwch â gadael i droseddwyr ddinistrio eich Nadolig.
Cynghorydd Dhanisha Patel, yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Os ydych chi wedi'ch effeithio gan sgâm, dywedwch wrth Action Fraud neu am ragor o wybodaeth ynghylch seiberddiogelwch, ewch i'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.