Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Byddwch yn wyliadwrus o sgiamiau yn ystod achos y coronafeirws COVID-19

Mae swyddogion safonau masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o sgiamiau yn ystod pandemig parhaus y coronafeirws COVID-19.

Gyda thwyllwyr yn cymryd mantais o'r pandemig i dwyllo pobl i drosglwyddo arian, manylion bancio a gwybodaeth bersonol arall, mae'r gwasanaeth wedi cyhoeddi rhybudd i aros yn wyliadwrus ar ôl gweld amrywiaeth o sgiamiau gwahanol yn cael eu defnyddio.

Triniaethau ‘gwyrthiol’ a chyfarpar diogelu nad ydynt yn bodoli

Er bod ymchwil wedi dechrau, nid oes triniaeth yn bodoli ar gyfer y coronafeirws COVID-19 ar hyn o bryd. Peidiwch â phrynu unrhyw gynhyrchion sy'n honni eu bod yn cynnig diogelwch penodol – yr unig ffordd effeithiol a swyddogol o leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws yw dilyn cyngor swyddogol y llywodraeth, sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

Dynwared swyddogion y cyngor er mwyn cael mynediad i eiddo

Ni fydd y cyngor yn galw ar hap neu'n ddirybudd i wirio lles preswylydd, ac ni fydd yn gofyn i wirio adeilad. Mae ein gweithwyr gofal yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed yn seiliedig ar drefniadau cytunedig.

Citiau profi coronafeirws yn y cartref ffug

Nid yw citiau profi yn y cartref ar gael i'w prynu ar hyn o bryd – byddwch yn wyliadwrus o bobl neu wefannau sy'n cynnig gwerthu'r rhain gan eu bod yn sgiâm.

E-byst sy'n cynnig ad-daliadau ar drethi, cyfleustodau ac ati

Dyma un o'r sgiamiau mwyaf poblogaidd, ac mae'n ymddangos yn arbennig o boblogaidd yn ystod yr achos. Maent wedi'u cynllunio i dwyllo preswylydd i drosglwyddo gwybodaeth bersonol a manylion bancio.

Hysbysiadau neges destun am ddirwy

Mae rhai sgiamwyr wedi bod yn anfon negeseuon testun ar hap i hysbysu pobl fod rhaid iddynt dalu dirwy neu gosb benodedig am beidio â dilyn gofynion cyfyngiadau symud, trwy adael y tŷ yn rhy aml ac ati. Mae negeseuon testun o'r fath yn gwbl ffug – anwybyddwch nhw.

Dynwared personél banc, swyddogion yr heddlu, ac ati

Mae sgiâm arall sy'n boblogaidd yn cynnwys twyllwyr yn dynwared gweithwyr banc, swyddogion yr heddlu a swyddogion eraill i ofyn i ddeiliaid tai gadarnhau eu manylion bancio er mwyn profi eu hunaniaeth.

Cynigion i helpu sy'n anwir

Mae hyn yn cynnwys unigolyn sy'n cysylltu â phreswylydd hŷn neu'n agored i niwed, gan ofyn am arian wrthynt i wneud eu siopa, talu bil, ac ati. Os oes angen help arnoch ac nid oes gennych gymydog neu aelod o'r teulu i'ch cynorthwyo yn ystod yr achos, mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) wedi trefnu cynllun gwirfoddoli swyddogol – gallwch ddarganfod mwy trwy e-bostio bavo@bavo.org.uk neu gysylltu â nhw ar 01656 810400.

Mae wedi bod yn wych gweld niferoedd enfawr o bobl yn camu ymlaen yn ystod achos y coronafeirws i gynnig help a chymorth i eraill o fewn y gymuned, ond yn anffodus mae'r sefyllfa hefyd yn galluogi lleiafrif bach i geisio cymryd mantais o'r sefyllfa trwy sgiamio a dwyn wrth bobl.

Gall twyllwyr ddod at bobl o unrhyw gyfeiriad, a gallant geisio gwneud hynny ar stepen y drws, dros y ffôn, drwy'r post neu ar-lein. Rydym yn cynghori pobl bob amser i fod yn wyliadwrus, ac i gymryd eich amser wrth ystyried rhywbeth. Peidiwch â gadael i unrhyw un eich rhuthro, gwnewch yn siŵr bob amser eich bod chi'n gwybod â phwy rydych chi'n delio, a pheidiwch â bod yn ofn rhoi'r ffôn i lawr, ei roi yn y bin, ei ddileu neu gau'r drws.

Os oes angen help arnoch, siaradwch â chymydog, ffrind neu aelod o'r teulu rydych yn ymddiried ynddo, cysylltwch â'ch cynghorydd lleol, neu cysylltwch â'n Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir am fwy o gyngor ymarferol. Trwy'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir, mae'r cyngor yn gweithio'n agos ochr yn ochr â Heddlu De Cymru er mwyn tarfu ar fasnachwyr twyllodrus a’u hatal rhag cymryd mantais ar bobl leol, a byddant bob amser yn ymchwilio i adroddiadau am sgiamiau ac yn cymryd camau priodol er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel.

Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Chwilio A i Y