Byddwch yn wyliadwrus o sgamwyr yn ystod yr achos o COVID-19
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Mawrth 2020
Wrth i'r achos o’r coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus o sgamwyr.
Mae'r awdurdod yn ymwybodol fod trigolion yn cael eu targedu gydag e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn a negeseuon WhatsApp yn cynnig cyngor ynghylch y coronafeirws.
Canfuwyd sawl gwefan ffug yn gwerthu cynhyrchion ac yn cynnig triniaeth am y coronafeirws, yn ogystal â gwefannau'n gofyn am roddion ariannol i’r sawl sy’n dioddef rhag y coronafeirws.
Anogir trigolion, yn arbennig y sawl sy'n hŷn ac yn agored i niwed, i fod yn wyliadwrus, i anwybyddu cynhyrchion ffug fel pecynnau gwrthfeirysau sy'n honni'n anwir i wella COVID-19, ac i beidio ag ateb y drws i unrhyw un sy’n anghyfarwydd iddynt.
Er bod grwpiau o wirfoddolwyr dilys yn cynnig cymorth yn ystod yr achos, mae cymunedau lleol yn cael eu hannog i chwilio am arwyddion y gallai cymdogion fod mewn perygl gan droseddwyr carreg drws, ac i ofyn am ddulliau adnabod bob tro gan unrhyw un sy'n honni ei fod yn gweithio i elusen neu sefydliad gwirfoddol.
Mae Gwasanaeth Atal Twyll y DU yn cynnig y cyngor canlynol:
- Byddwch yn wyliadwrus os ydych yn derbyn e-bost, neges destun neu neges WhatsApp am y coronafeirws, a pheidiwch byth â chlicio ar unrhyw atodiadau neu ddolenni.
- Peidiwch byth â rhoi data personol fel eich enw llawn, eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni – mae sgamwyr yn gallu defnyddio'r wybodaeth hon i ddwyn eich hunaniaeth.
- Peidiwch â gadael i unrhyw un roi pwysau arnoch i roi arian a pheidiwch byth â rhoi arian neu gardiau rhodd nac anfon arian drwy asiantau trosglwyddo.
- Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef sgiâm, siaradwch â'ch banc ar unwaith ac adrodd unrhyw dwyll i Action Fraud drwy ffonio 0300 123 2040.
- Gallwch gael mwy o wybodaeth am ymdrin â sgamiau a thwyll drwy ffonio'r Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0808 223 1133, neu gallwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth.