Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Byddwch yn ddiogel wrth fwynhau'r arfordir yr haf hwn

Wrth i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymhyfrydu yn nhywydd poeth cynnar yr haf a dolffiniaid wedi'u gweld yn y môr ym Mhorthcawl unwaith eto, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i fwynhau arfordir trawiadol yr ardal mewn modd diogel.

Mae'r dŵr o amgylch Bae Tywodlyd a Marina Porthcawl yn brysur tu hwnt pan geir tywydd braf, ac maent yn fannau poblogaidd ar gyfer gweithgareddau megis hwylio, canŵio, caiacio, gwyntsyrffio, syrffio barcud, padlfyrddio a nofio mewn dŵr agored.

Patrolau achubwr bywyd

Atgoffir ymwelwyr fod patrolau achubwyr bywyd ar waith ym Mae Rest, Traeth Coney, Bae Tywodlyd a Bae Rest rhwng 10am-6pm tan 5 Medi.

Gall ymwelwyr â Bae Rest hefyd sganio codau QR, sy'n cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf, gywir, ynghylch yr amodau cyfredol.

Cyn plymio i'r dŵr

Waeth beth yw'r gweithgaredd, dylid gwirio rhagolygon y tywydd a chyflwr y môr ymlaen llaw, i sicrhau eu bod yn addas. Mae'n rhaid i bob darn o offer fod yn addas i'w ddefnyddio, a dylid marcio enw a manylion cyswllt yn glir arnynt. Dylid hefyd gwisgo siaced achub a siacedi hynofedd bob amser.

Dylai unrhyw un sy'n mynd i'r dŵr gyfarwyddo ei hun â mannau bas a rhwystrau siartredig, a rhoi gwybod i rywun ar y lan i ble'r ydych yn mynd. Dylid bod yn ymwybodol o offer a allai achosi niwed os cyffyrddir ynddynt - er enghraifft, byrddau, esgyll, ffunennau a hwyliau - a chadw pellter diogel oddi wrth eraill sydd yn y dŵr neu ar y traeth.

Mae dillad llachar, bwiau tynnu lliwgar a chapiau nofio yn eich helpu i fod yn amlwg yn y dŵr, ac argymhellir chi i ddefnyddio bag bach i gario eitemau fel radio, ffôn symudol, fflachiau neu dortsh. 

Nofio

Dylech ond nofio rhwng baneri coch a melyn ar draethau dan ofal achubwyr bywyd, ac os ydych yn mynd i drafferthion, gorweddwch ar eich cefn mewn siâp 'Arnofio i Oroesi', ymlaciwch, a gwrthodwch yr awydd i frwydro yn erbyn y dŵr.

Dylai unrhyw un sy'n gweld nofiwr mewn trafferthion ffonio 999 neu 112 mewn argyfwng a gofyn am Wylwyr y Glannau. Am fwy o fanylion, ewch i wefan RNLI.

Peidiwch â nofio y tu hwnt i'ch gallu, ac osgowch nofio ar eich pen eich hun. Dywedwch wrth rywun ar y lan i ble'r ydych yn nofio a pha bryd y byddwch yn dychwelyd. Cofiwch fod yn ymwybodol o'r oerni, a'r effaith y gallai ei chael ar y corff yn y dŵr.

Ceisiwch osgoi gwrthdrawiadau a damweiniau, ystyriwch beth fyddwch chi'n ei wisgo i sicrhau bod defnyddwyr eraill a chychod yn eich gweld chi, neu a oes angen bwi tynnu ai peidio.

Ymhlith y pethau y dylid eu hosgoi bob amser mae plymio neu neidio oddi ar strwythur i mewn i ddŵr nad ydych yn gwybod ei ddyfnder, nofio mewn cerrynt a llanw cryf, a nofio ar ôl yfed alcohol neu fwyta. Peidiwch byth â nofio ger cwch sy'n symud neu o amgylch llong sydd wedi'i hangori gyda'i injan yn rhedeg, ac osgowch nofio ar draws sianel fynediad y marina bob amser.

Yn y marina

Wrth i gychod fynd a dod o Farina Borthcawl, mae cyfyngiad cyflymder pum-not ar waith o amgylch y fynedfa, ac mae'n rhaid i bob cwch fod yn gyfarwydd â hyn, a chydymffurfio â Rheoliadau Rhyngwladol ar gyfer Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr.

Mae'n rhaid i gychod sy'n defnyddio'r marina hefyd gydymffurfio â rheoliadau perthnasol, yn cynnwys cyfarwyddiadau o swyddfa meistr yr harbwr. Rhaid i bawb sy'n mynd i'r dŵr ar gwch ystyried y tywydd a chyflwr y llanw'n ofalus ymlaen llaw. Mae amseroedd llanw lleol ar gael ar wefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr, ac anogir pobl sy'n defnyddio cychod dŵr eu hunain, fel Jet-sgis, i ddefnyddio'r ardal o amgylch Bae Newton.

Mynd â chŵn am dro

Ni chaniateir cŵn ym Mae Rest, Traeth y Dref, Traeth Coney na Bae Trecco rhwng 1 Mai a 30 Medi 2022. Fodd bynnag, gallwch fynd â'ch cŵn am dro i Draeth Newton, Bae Pinc a Thraeth y Sger drwy gydol y flwyddyn. Ble bynnag fyddwch chi'n mynd, cofiwch godi gwastraff cŵn mewn bagiau bob amser, a'i waredu'n gyfrifol.

Sbwriel a barbeciws tafladwy

Caiff ymwelwyr i draethau a baeau Porthcawl eu hannog i godi sbwriel a chael gwared arno'n gyfrifol bob amser, ac i feddwl ddwywaith cyn tanio barbeciw tafladwy.

Ni ddylai glo poeth gael ei gladdu o dan dywod na'i wagio ar greigiau ar unrhyw gyfrif, gan fod y ddau wedi achosi anafiadau difrifol i blant yn y gorffennol.

Os yw'r barbeciw yn dal i fod yn boeth erbyn diwedd eich ymweliad, peidiwch byth â'i adael ar y traeth gan fod y gril yn aml yn dod yn rhydd o'r badell ffoil gyda'r llanw, a gall ei ymylon rhychog achosi anafiadau.

Yn hytrach na hynny, defnyddiwch ddŵr y môr i oeri'r glo, gosodwch y badell a'i gynnwys mewn bag addas, a gwaredwch â'r barbeciw yn ofalus gartref neu mewn bin sbwriel.                 

Mae traethau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymysg y rhai gorau yn y Deyrnas Unedig, ac maent yn adnabyddus am eu harfordir syfrdanol, tywod euraidd ac amodau syrffio da. Mae croeso i ymwelwyr, ond cofiwch ymddwyn yn gyfrifol yn ystod eich amser yma, a mwynhewch y traeth yn ddiogel.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:

Chwilio A i Y