Bydd y cyngor yn ailgartrefu mwy o ffoaduriaid
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 23 Hydref 2018
Bydd pum teulu arall o ffoaduriaid sy'n ffoi'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn cael eu hailgartrefu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y ddwy flynedd nesaf, gan ymuno â'r chwe theulu sydd eisoes wedi cael eu croesawu i'r ardal.
Wedi'u gorfodi i adael eu mamwlad, sydd wedi'i difrodi gan ryfel, cyrhaeddodd y teulu cyntaf o Syria i'r fwrdeistref sirol ym mis Tachwedd 2016, ac mae pum teulu arall wedi cael eu hailsefydlu ers hynny, gyda'r mwyaf diweddar yn cyrraedd ym mis Medi 2017.
Mae 31 o ffoaduriaid o Syria wedi symud i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tra bo tri baban wedi cael eu geni yma.
Heddiw, mae aelodau Cabinet yr awdurdod lleol wedi cytuno i barhau i gymryd rhan yn rhaglen ailsefydlu ffoaduriaid Llywodraeth y DU, gan helpu i ddarparu llety diogel i bum teulu arall erbyn 2020.
Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Tai Hafod, a fydd yn rheoli tenantiaethau yn y sector rhentu preifat ar gyfer y teuluoedd sy'n ffoaduriaid. Mae Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i helpu'r cyngor ac asiantaethau eraill i gefnogi'r ffoaduriaid am hyd at bum mlynedd.
Os yw'n dal yn beryglus iddynt ddychwelyd adref ar ôl pum mlynedd, byddant yn gallu gwneud cais i Lywodraeth y DU i aros yn y DU.
Ers 2016, rydym wedi bod yn falch o ailgartrefu teuluoedd o Syria mewn gwahanol leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol, pob un â mynediad da i ysgolion ac amwynderau lleol.
Mae pob un o'r ffoaduriaid wedi bod trwy brofiadau trawmatig iawn ac wedi gorfod gadael popeth sy'n gyfarwydd iddynt, felly rydym yn awyddus i wneud popeth a allwn a dangos y caredigrwydd y maent yn ei haeddu.
Rwyf yn falch o glywed am y cymdogion sydd wedi cymryd yr amser i wneud ffrindiau â mamau a thadau, tra bo eu plant yn ymgartrefu'n dda iawn mewn ysgolion lleol. Rwyf hefyd yn gwybod bod eglwysi lleol hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, gan roi rhoddion a threfnu boreau coffi.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Mae gan ffoaduriaid sy'n ailgartrefu yn y DU yr hawl i ddod â'u teulu uniongyrchol gyda hwy ac maent yn ddarostyngedig i weithdrefnau fetio llym y Swyddfa Gartref. Mae nifer y ffoaduriaid sy'n debygol o gael eu derbyn yng Nghymru rhwng 1,000 a 1,500.