Bydd plant bregus yn cael wy y Pasg hwn
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 16 Ebrill 2019
Mae apêl leol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi sicrhau y bydd plant difreintiedig yn cael wy y Pasg hwn.
Mae dwsinau o wyau wedi cael eu rhoi yn garedig iawn i adran gwasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn sgil apêl flynyddol Bridge FM am wyau Pasg. Cefnogir yr apêl gan Ganolfan Siopa Pen-y-bont ar Ogwr, G4S Parc Yn Cefnogi Teuluoedd yng Ngharchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, a Chyfrifwyr Siartredig Graham Paul.
Anogwyd siopwyr lleol i brynu wy ychwanegol wrth siopa a’i adael mewn gwahanol fannau rhoi mewn siopau oedd yn cymryd rhan yng Nghanolfan Siopa Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys Peacocks, Farmfoods, Iceland a Poundland.
Cafodd yr wyau Pasg eu rhoi i adran gwasanaethau cymdeithasol plant y cyngor i’w rhannu i blant bregus lleol cyn i wyliau’r Pasg ddechrau.
Mae haelioni siopwyr lleol ym Mwrdiestref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a BridgeFM wedi ein syfrdanu.
Diolch enfawr i bob person sydd wedi cyfrannu wy i’r apêl. Heb eich caredigrwydd a’ch cyfraniad, ni fyddai’r cynllun hwn yn bosibl. Bydd yna lawer o blant hapus eto y Pasg hwn.
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David