Bydd parseli bwyd ar gyfer plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau yn ystod gwyliau’r haf
Poster information
Posted on: Dydd Iau 02 Gorffennaf 2020
Bydd parseli bwyd ar gyfer plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu darparu bob wythnos yn ystod gwyliau’r haf.
Mae’r parsel bwyd wythnosol yn cynnwys digon o eitemau bwyd i ddarparu brecwast a chinio i blentyn am bum diwrnod. Ar gyfer disgyblion â gofynion arbennig o ran deiet, bydd opsiwn prydau wedi’u rhewi am bum diwrnod yn cael eu darparu.
Mae’r parseli bwyd a ddechreuodd ddiwedd mis Ebrill yn disodli’r ddarpariaeth pecyn bwyd cinio a sefydlwyd pan gaeodd yr ysgolion ym mis Mawrth.
Mae tua 5,000 o barseli bwyd yn cael eu dosbarthu bob wythnos i gartrefi ar hyd a lled y fwrdeistref sirol. Maent yn cynnwys amrywiaeth o ffrwythau a llysiau ffres, pasta, sawsiau a bwydydd tun.
Mae’r parseli bwyd yn helpu’r teuluoedd hynny y byddai eu plant yn elwa fel arfer ar bryd ysgol am ddim yn eu hysgolion lleol. Hyd yma, mae’r ddarpariaeth wedi cynnwys gwyliau Pasg yr ysgol ac wythnos hanner tymor y gwanwyn, a bydd yn cynnwys gwyliau’r haf hefyd yn awr o 20 Gorffennaf i 31 Awst. Ar ôl ystyried gwahanol opsiynau, mae’r cyngor yn parhau i gredu bod darparu parseli bwyd sy’n cynnwys gyda gwerth hyd at bum diwrnod o eitemau brecwast a chinio maethlon wedi bod yn fwy effeithiol ac yn fwy llesol i blant lleol yn y pen draw, o gymharu â’r trefniadau eraill.
Mae wedi golygu nad yw teuluoedd wedi gorfod teithio’n ddiangen pan oedd y pandemig ar ei anterth, mae wedi osgoi problemau posibl gyda mynediad ac mae wedi darparu lefel ychwanegol o sicrwydd y bydd plant wedi derbyn y bwyd. Mae’r system hefyd yn parhau i gefnogi’r trefniadau diogelu yn ystod y pandemig drwy alluogi cyswllt wyneb yn wyneb ychwanegol gan staff ysgolion a’n Tîm Grwpiau Agored i Niwed.
Yn ogystal â chefnogi cyflenwyr bwyd Cymru, mae pob parsel yn ystyried gofynion deietegol penodol, ac mae’n cynnwys cardiau ryseitiau ‘sgiliau-bywyd’ sydd wedi annog plant ac oedolion i baratoi prydau bwyd gyda’i gilydd, dysgu am faeth a mwy. Rydym yn gofyn i rieni fod ar gael i ateb y drws a chasglu’r parsel oherwydd ni fydd unrhyw barseli’n cael eu gadael heb eu casglu. Fodd bynnag, gellir gadael parseli gyda chymdogion yn awr. Bydd y staff dosbarthu yn cynnal y gweithdrefnau cadw pellter cymdeithasol bob amser.
Charles Smith, aelod cabinet dros addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Os ydych yn byw ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn derbyn unrhyw rai o’r budd-daliadau canlynol, gallwch hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn oedran ysgol:
- cymhorthdal incwm
- lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm
- cymorth o dan Ran VI Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
- lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm
- credyd treth plant (ond nid credyd treth gwaith) os yw eich incwm blynyddol, sydd wedi’i asesu gan gredydau treth, o dan £16,190
- elfen warantedig y credyd pensiwn
- cyfnod ychwanegol o gymorth credyd treth gwaith (y taliad y gallai rhywun ei dderbyn am bedair wythnos ychwanegol ar ôl i’w cymhwyster ar gyfer credyd treth gwaith ddod i ben)
- credyd cynhwysol (ddim mewn gwaith)
- credyd cynhwysol (mewn gwaith) pan fydd eich dyfarniad yn seiliedig ar enillion blynyddol net o lai na £7,400 o’ch cyflogaeth neu hunangyflogaeth
Os bydd eich amgylchiadau wedi newid oherwydd Covid-19, gallwch gyflwyno cais am brydau ysgol am ddim ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y cyngor ar barseli bwyd wythnosol i blant.