Bydd mynwentydd a pharciau yn aros ar gau am y tro ond bydd y penderfyniad yn cael ei fonitro'n agos a'i adolygu'n barhaus
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 21 Ebrill 2020
Bydd pob parc a mynwent sy'n cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd dros dro o ganlyniad i bandemig parhaus y coronafeirws.
Bydd y mynwentydd, sy'n cynnwys safle Amlosgfa Llangrallo, yn aros ar gau nes bydd hysbysiad pellach i helpu i gyfyngu ar y risg o ddod i gysylltiad â’r feirws.
Yn y cyfamser, bydd Parc Lles Maesteg a Pharc Griffin ym Mhorthcawl yn parhau i fod ar glo.
Byddwn yn parhau i adolygu'r penderfyniad i gau parciau a mynwentydd dros dro yn agos, a byddwn yn eu hagor eto cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
Mae'n rhaid i ni gofio bod pobl yn peryglu eu bywydau i drin cleifion sydd â choronafeirws. Nid ydynt ag imiwnedd, ac am fod cymaint, yn anffodus, wedi colli eu bywydau mewn ysbytai wrth ofalu am y rheini sydd â COVID-19, mae angen i ni wneud cymaint ag y gallwn i gyfyngu ar y risg o gael haint.
Wrth ystyried hamdden, mae'r mwyafrif helaeth o hawliau tramwy yn dal ar agor trwy'r fwrdeistref sirol, ac mae gan bobl ddigon o le i fwynhau’r awyr agored heb wynebu’r risg o fod yn agos iawn at bobl eraill. Rydym yn deall efallai y bydd hyn yn creu anghyfleustra dros dro i rai trigolion, ond byddwn yn cadw llygad manwl ar y sefyllfa er mwyn sicrhau y gallant gael eu hailagor cyn gynted ag y bo modd.
Richard Young, aelod y cabinet dros gymunedau
Dywedodd yr Archesgob George Stack, o Archesgobaeth Caerdydd: “Rydym yn cydnabod bod angen i ni ddilyn y canllawiau a chyngor priodol a roddwyd ar gyfer iechyd pob aelod o’r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn.
“Am y tro, mae hyn yn cynnwys cau mynwentydd i'r cyhoedd ar wahân i wasanaethau claddu, pan fydd uchafswm o ddeg o bobl yn cael yr hawl i ymgynnull.
“Trwy'r esgobaeth, mae gwasanaethau a gweddïau yn cael eu ffrydio'n fyw o'n heglwysi ac mae croeso i bobl ymuno â nhw.”