Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bydd gwaith gwerth £1.5 miliwn ar lwybrau teithio llesol rhwng Pencoed, Bracla a Llangrallo i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn dod i ben y mis hwn

Bydd gwaith gwerth £1.5 miliwn i greu llwybr diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr sy’n cysylltu Pencoed a Llangrallo â Phen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y mis hwn (mis Mawrth).

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar y llwybrau newydd dros y misoedd diwethaf ac mae wedi bod mesurau traffig a gwyriadau ar waith.

Mae'r prosiect yn cynnwys adeiladu:
- Llwybr a rennir rhwng cerddwyr a beicwyr rhwng Bracla a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Dechreuodd y gwaith ar y cynllun gwerth £265,000 ar ddechrau mis Ionawr.
- Llwybr a rennir rhwng cerddwyr a beicwyr sy'n cysylltu Llangrallo ag Ystad Ddiwydiannol Waterton a'r Parc Manwerthu. Dechreuodd y gwaith ar y prosiect gwerth £550,000 ym mis Hydref. Mae'r llwybr hwn yn rhan o lwybr hirach sy'n cysylltu canol tref Pen-y-bont ar Ogwr â champws Pencoed Coleg Pen-y-bont ar Ogwr.
- Llwybr a rennir rhwng cerddwyr a beicwyr rhwng Pencoed a Pharc Technoleg Pencoed. Dechreuodd y gwaith ar y cynllun gwerth £750,000 ym mis Hydref.

Rydym yn cydnabod yr anghyfleustra dros dro i yrwyr a achosir gan y gwaith parhaus ar y ffyrdd a'r mesurau traffig sydd ar waith ond rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar wrth i ni ddod i ben – bydd y tri phrosiect i gyd wedi cael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.

Bydd y llwybrau teithio llesol hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, gan alluogi pobl i gerdded neu feicio a gadael eu ceir gartref ac felly lleihau tagfeydd a llygredd amgylcheddol. Bydd hefyd yn helpu cyflogaeth yn yr ardal, gan alluogi'r rheini sydd heb geir neu sydd heb fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd mwy o leoliadau trwy gerdded neu feicio.

Rydym am wneud popeth y gallwn i’w gwneud yn haws i bobl ddewis ffordd o deithio iachach, mwy gwyrdd ar gyfer teithiau bob dydd a byrrach, a dechrau tuedd y gellir ei barhau dan arweiniad cenedlaethau'r dyfodol.

Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau

Fel rhan o'r gwaith, gwelwyd lonydd yn cael eu cau ar yr A473 er mwyn creu croesfan newydd i gerddwyr ar gylchfan Heol Felindre.

Bydd cyfyngiad cyflymder dros dro o 50 milltir yr awr rhwng campws Pencoed Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Chyffordd 35 ar yr M4 yn para am 18 mis. Mae mewn grym wrth deithio yn y ddau gyfeiriad.

Roedd llwybr teithio llesol Pencoed i fod i gael ei orffen erbyn diwedd mis Chwefror ond, oherwydd nifer o broblemau annisgwyl o ganlyniad i waith awdurdodau statudol, bydd bellach yn cael ei gwblhau ar ddiwedd mis Mawrth.

Lle bo hynny'n bosibl, mae gwaith yn cael ei gynnal y tu allan i adegau prysuraf y dydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwerth £3.6 miliwn o welliannau trafnidiaeth a theithio llesol wedi'u cynnal yn y fwrdeistref sirol fel rhan o agenda ddatgarboneiddio'r awdurdod lleol.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru yr arian i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn creu llwybrau diogel newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr, creu llwybrau teithio llesol newydd, gwella mynediad mewn nifer o arosfannau bysiau, a darparu hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd a beicio ar gyfer plant ysgol yn ogystal â chyrsiau Pass Plus ar gyfer gyrwyr newydd.

Mae'r awdurdod lleol wrthi’n cyflwyno rhagor o gynigion am gyllid ar gyfer cynlluniau pellach.

Chwilio A i Y