Bydd dwy ffordd sy'n cael eu defnyddio'n aml ar gau er mwyn rhoi wynebau newydd arnynt yr wythnos nesaf
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 24 Awst 2018
Bydd dwy ffordd fawr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gau am lawer o'r wythnos nesaf er mwyn iddynt gael wynebau newydd arnynt.
Bydd y B4181 Heol Llangrallo ar gau o'i chyffordd â Heol Simonston i'r gyffordd ag Erw Hir ym Mracla rhwng 8am a 4pm o ddydd Mawrth 28 Awst i ddydd Sul 2 Medi fel bod modd gwneud gwaith ar y 1km o ffordd.
Bydd copa'r A4061 Ffordd Mynydd y Bwlch (o'r grid gwartheg i fyny) hefyd ar gau i roi wyneb newydd arni rhwng 8am a 4pm o ddydd Mawrth 28 Awst i ddydd Sul 9 Medi.
Bydd llwybrau gwyro dros dro ar waith.
Mae'r gwaith yn dilyn ail-wynebu arall sydd wedi'i gwblhau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr wythnosau diwethaf ar lwybrau, gan gynnwys y B4281 trwy Gefn Cribwr, Brocast Avenue ar Ystad Ddiwydiannol Waterton a chyffordd Stormy Lane ar yr A48.
Mae cyfanswm o dros ddwsin o'r ffyrdd sydd yn cael eu defnyddio fwyaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael wynebau newydd yn barod ar gyfer y gaeaf fel rhan o raglen uwchraddio priffyrdd gwerth £1.5 miliwn. Rydym wedi derbyn grant o £1.25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wneud y gwaith a byddwn hefyd yn cyfrannu £250,000 ein hunain.
Mae rhai ffyrdd wedi cael eu nodi fel rhai sydd angen wynebau newydd yn dilyn arolygon technegol a gafodd eu cynnal gydag offer profi radar neu atal sgidio, arolygon cyflwr ac asesiadau a gynhaliwyd gan arolygwyr priffyrdd, yn ogystal ag unrhyw bryderon a leisiwyd gan y cyhoedd a chynghorwyr ynglŷn â strydoedd lleol.
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’r un nesaf, bydd cyfanswm o £4 miliwn yn cael ei wario ar roi wynebau newydd ar ffyrdd lleol. Bydd £400,000 pellach yn cael ei wario ar wella nifer o lwybrau troetffyrdd ledled y fwrdeistref sirol i fynd i'r afael â materion fel atgyweiriadau angenrheidiol a gwelliannau draenio. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir gan gau ffyrdd dros dro, ond gobeithio y bydd modurwyr yn gwerthfawrogi'r angen i gyflawni'r gwaith hwn."
Mae'r cyngor yn gosod arwyddion ffordd oddeutu pythefnos cyn i bob cynllun ddechrau i rybuddio modurwyr ymlaen llaw, tra ysgrifennir at breswylwyr sy'n byw gerllaw. Mae'r holl waith ail-wynebu wedi'i drefnu yn ddibynnol ar nifer o ffactorau megis y tywydd.