Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn elwa o gyllid ‘Croeso Cynnes’

Bydd grwpiau a chanolfannau cymunedol ledled y fwrdeistref sirol yn elwa o’r Cynllun Grant Hybiau Cynnes, gyda thua £40,000 yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r fenter.

Wedi’u gweinyddu gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), mae grantiau o hyd at £2,000 ar gael i gyfleusterau, grwpiau a chanolfannau cymunedol, yn ogystal â mentrau nid er elw.  Bwriad y cyllid yw cefnogi mannau cynnes hen a newydd, lle all pobl ddod ynghyd i gysylltu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Mae’r Cynllun Hybiau Cynnes bellach yn derbyn ceisiadau, ac felly bydd y panel grantiau yn cwrdd dwywaith yr wythnos, er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr yn cael ymateb prydlon.

Dyma gyfle gwych i ddatblygu hybiau cynnes ledled y fwrdeistref sirol - gan wella'r ddarpariaeth mannau cynnes dan arweiniad cymunedol bresennol sydd eisoes ar waith.

Mae’r fenter yn cefnogi ein cymunedau lleol mewn llu o wahanol ffyrdd. Yn ogystal â chynnig mannau cynnes a diogel yn ystod yr argyfwng costau byw, mae’r hybiau hefyd yn cynnig mannau i gysylltu gyda’n gilydd - sy’n arbennig o bwysig ar ôl yr holl unigedd cymdeithasol a ddaeth law yn llaw â’r pandemig. Mae'r hybiau cynnes yn annog ymgysylltiad cymdeithasol, sydd mor hanfodol i’n llesiant.

Maxine Barrett, Cydlynydd Costau Byw

Mae rhagor o fanylion am y Cynllun Grant Hybiau Cynnes ar gael ar wefan BAVO

Chwilio A i Y