Bwrdd iechyd yn parhau i ddarparu hyfforddiant dementia
Poster information
Posted on: Dydd Iau 11 Mawrth 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cychwyn cytundeb partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ddarparu hyfforddiant dementia a datblygiad i staff gofal.
Cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 9 Mawrth oedd yn datgan bod cytundeb anffurfiol wedi bodoli o fewn y bwrdd iechyd ers trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn 2019-20, i sicrhau bod cymorth i ddarparwyr gwasanaeth dementia yn parhau, a chaniatáu cyfnod o adolygu.
Dangosodd yr adolygiad bod y cytundeb presennol yn darparu hyfforddiant gwerth am arian, yn cynnwys cymorth parhaus i ddarparwyr gofal.
Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i barhau i ddatblygu a hyfforddi'r gweithlu gofal dementia i sicrhau bod y cymorth gorau yn cael ei ddarparu i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, boed hynny gartref, mewn cartref gofal neu ysbyty.
Bydd y cytundeb ffurfiol hwn yn darparu cydweithrediad cynaliadwy cost-effeithiol fydd yn sicrhau dull cyson at ddarparu gofal dementia i drigolion.
Er bod pandemig Covid-19 wedi effeithio ar ddarpariaeth hyfforddiant, addasodd y gwasanaeth yn gyflym gan gyflwyno gweithdai a chyrsiau e-ddysgu. Y gobaith yw y bydd sesiynau wyneb-yn-wyneb, o fewn cartrefi gofal, yn gallu ail-gychwyn, yn ogystal â dysgu ar-lein, pan fo'n ddiogel iddynt wneud hynny.
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett
Bydd y cytundeb ar waith o 1 Ebrill 2021 am dair blynedd, gyda'r dewis i'w ymestyn am chwe mis pellach os oes angen.