Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cadarnhau canolfannau brechu Covid-19 newydd cyn cyflwyno'r dos atgyfnerthu

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gadarnhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi agor dwy ganolfan frechu newydd yn barod ar gyfer cyflwyno brechiadau Covid-19 atgyfnerthu yn yr hydref, yn ysbyty Glanrhyd ac Ysbyty Cymunedol Maesteg (Heol Castell-nedd). 

Mae'r bwrdd iechyd wedi cau Ravens Court erbyn hyn, gan fod pob un o ganolfannau brechu Cwm Taf Morgannwg wedi'u symud i adeiladau bwrdd iechyd a oedd yn bodoli eisoes er mwyn galluogi canolfannau blaenorol i ddychwelyd i'w defnydd gwreiddiol yn llwyr.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud y bydd apwyntiadau galw heibio ar gael yn y canolfannau newydd tan ddiwedd y mis yn unig, gan fod y rhaglen atgyfnerthu dros yr hydref yn dechrau cael ei gyflwyno o fis Medi. Wedi hynny, bydd yr holl frechiadau'n cael eu rhoi drwy apwyntiad yn unig.

Bydd y brechiad Covid-19 atgyfnerthu dros yr hydref ar gael i:

  • breswylwyr a staff cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn;
  • gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd rheng flaen;
  • pawb sy'n 50 oed a hŷn;
  • unigolion sydd rhwng pum mlwydd oed a 49 oed sydd mewn grwpiau risg clinigol, gan gynnwys merched beichiog a chysylltiadau aelwydydd pobl sydd â chyflyrau gwrthimiwnedd.
  • gofalwyr rhwng 16 i 49 oed.

Bydd llythyrau apwyntiad yn cael eu hanfon at bawb sy'n gymwys am frechiad atgyfnerthu dros yr hydref, gyda'r bwriad o ddechrau brechu fis Medi.

Yn y cyfamser, bydd y brechiad rhag y ffliw ar gael unwaith eto i bawb sy'n fregus, gan gynnwys oedolion 50 oed a hŷn, plant rhwng dwy a 16 oed, staff gofal cymdeithasol ac iechyd rheng flaen, gan gynnwys unigolion sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, a phobl rhwng chwe mis a 49 oed sydd mewn grŵp risg clinigol. Fodd bynnag, ni fydd y brechiad rhag y ffliw yn cael ei gynnig ochr yn ochr â'r brechiad atgyfnerthu mewn canolfannau brechu.

Dywedodd Julie Keegan, cyfarwyddwr cynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rwyf eisiau diolch i'n partneriaid awdurdod lleol am ganiatáu i ni ddefnyddio ein canolfannau brechu cymunedol. Ni fyddwn wedi gallu cyflwyno'r rhaglen frechu sylweddol hon heb eu cymorth nhw. Mae wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydym wir yn eu gwerthfawrogi.

"Wrth symud ymlaen, bydd ein canolfannau brechu cymunedol newydd yn hanfodol wrth gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu dros yr hydref, a fydd yn dechrau fis nesaf. Maent ar agor o ddydd Llun, a bydd apwyntiadau galw heibio yn dal i fod ar gael ochr yn ochr ag apwyntiadau sydd wedi'u trefnu ymlaen llaw."

Bydd apwyntiadau'n cael eu cynnig yn awtomatig i bob oedolyn cymwys yn y fwrdeistref sirol. Nid oes angen ichi gysylltu â’r bwrdd iechyd na'ch Meddyg Teulu lleol, a byddwch yn cael clywed am eich apwyntiad cyn bo hir.

Mae'n hynod bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich brechiad atgyfnerthu. Mae hyn yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer gwella eich lefelau o ddiogelwch yn erbyn beth all fod yn feirws sy'n symud yn gyflym iawn. Rydym wedi gwneud cynnydd da, ond mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fod un cam ar y blaen drwy gydol y gaeaf.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Chwilio A i Y