Busnesau yn cael dros £37m mewn grantiau cymorth yn sgil y coronafeirws
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 13 Ionawr 2021
Mae mwy na £37m wedi cael ei dalu mewn cymorth ariannol i fusnesau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers dechrau pandemig Covid-19.
Ym mis Mawrth y llynedd, lansiodd Llywodraeth Cymru gam cyntaf y grantiau i fusnesau ac elusennau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod clo a chyfyngiadau'r coronafeirws, gyda £30,065,000 wedi cael ei dalu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers hynny.
Talwyd £5,475,000 arall o dan y cynllun Grant Ardrethi Annomestig y Cyfyngiadau Symud ers mis Tachwedd a £1,840,000 o'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud a lansiwyd ym mis Rhagfyr.
Rhoddwyd cyfanswm o 4,931 o grantiau i fusnesau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy'r cronfeydd hyn.
Yn ogystal â grantiau i gwmnïau, mae £1,850,261 wedi'i dalu i breswylwyr o dan Daliadau'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ers mis Gorffennaf. Cyflwynwyd y taliadau o £500 i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad staff gofal cymdeithasol sydd wedi darparu gofal hanfodol yn ystod y pandemig.
Ym mis Tachwedd, lansiwyd Taliadau Hunanynysu gwerth £500 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy’n methu â gweithio oherwydd bod gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi dweud wrthynt am hunanynysu. Ers hynny, mae £73,500 wedi'i dalu i drigolion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae £27,551 ychwanegol wedi'i dalu o dan y cynllun statudol i wella tâl salwch ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.
Dywedodd Hywel Williams, dirprwy arweinydd y cyngor: "Mae'r cynlluniau grant a thalu hyn wedi helpu i ddarparu cymorth ariannol hanfodol ar adeg pan mae trigolion a busnesau lleol yn wynebu heriau difrifol iawn.
"Mae staff y Cyngor yn parhau i weithio'n galed i asesu ceisiadau cyn gynted â phosibl. Gofynnwn yn garedig i fusnesau beidio â chysylltu â'r cyngor i wirio cynnydd cais gan y gall ohirio'r broses.
"I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau, ewch i dudalen cymorth ariannol y cyngor."