Busnesau’n croesawu’r estyniad yn y cynnig parcio am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Awst 2021
Mae busnesau ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r newyddion y bydd nifer o feysydd parcio canol tref a reolir gan y cyngor yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i'w defnyddio.
Y bwriad gwreiddiol oedd dod â'r cynnig i ben ddiwedd y mis hwn, ond bydd yn awr yn parhau tan ar ôl y Nadolig. Mae’n golygu y gall gyrwyr barcio am ddim am hyd at dair awr ym maes parcio aml-lawr Rhiw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, a rhwng hanner dydd a 3pm ym maes parcio Stryd John ym Mhorthcawl.
Mae busnesau canol trefi’n dweud eu bod eisoes yn gweld buddion cynllun Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac wedi croesawu'r newyddion bod y cynnig bellach wedi'i ymestyn.
Dywedodd Beth Daniel, sy’n rhedeg salon gwallt ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn cadeirio Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn hynod o falch o’r newyddion bod yr awdurdod lleol yn ymestyn y cynnig parcio ‘tair awr am ddim’ ym maes parcio Rhiw.
“Mae’r cynnig hwn wedi annog mwy o bobl i ddod i ganol y dref a chefnogi’r masnachwyr lleol sydd wedi profi amser caled gyda’r cyfnodau clo’n ystod y 18 mis diwethaf.
"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i ddenu mwy o fasnach, yn enwedig gyda thymor y Nadolig ar y gweill.”
Dywedodd Michelle, o Divine, siop gemwaith ym Mhorthcawl: "Rydym wrth ein bodd o glywed y newyddion am ymestyniad y cynnig parcio am ddim tan ar ôl y Nadolig.
"Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer yr ymwelwyr ym Mhorthcawl ac rydym wir wedi gweld canlyniadau'r cynnydd hwn - mwy o bobl yn y dref gyda mwy o amser i siopa.
"Mae'n gefnogaeth wych i ni fusnesau lleol sy'n ceisio ail-ddechrau ac adfer ar ôl misoedd o fod wedi cau."
Mae parcio rhad ac am ddim yn parhau i fod ar gael ym maes parcio aml-lawr Ffordd Llynfi ym Maesteg a maes parcio Ffordd Penprysg ym Mhencoed. Yn ogystal, mae’r maes parcio sydd dan berchnogaeth Cyngor Tref Pencoed wrth ymyl Neuadd Llesiant Glowyr Pencoed yn Heol-y-Groes, hefyd ar gael am ddim.