Buddsoddiad y Cyngor yn sicrhau bod mannau chwarae’n gynhwysol i blant lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 07 Rhagfyr 2022
Mae pedwar o fannau chwarae i blant yn y fwrdeistref sirol wedi cael budd o offer chwarae newydd neu atgyweirio cyfleusterau presennol fel rhan o fuddsoddiad gwerth £500k.
Mae’r holl waith adnewyddu’n cynnwys offer newydd, cynhwysol, sy’n caniatáu i bob plentyn fod yn actif, gan gynnwys y rheiny a chanddynt anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA).
Mae’r mannau chwarae sydd wedi cael budd o’r gwaith adnewyddu diweddaraf yn cynnwys:
- Stryd Adare, Bro Ogwr
- Heol y Goedwig, Porthcawl
- Man Chwarae Stryd Newydd, Stryd y Dderwen, Abercynffig
- Man Chwarae Swyddfa Bost Tondu, Heol Maesteg, Tondu
Gosodwyd cylchfannau cynhwysol ym mannau chwarae Stryd Newydd a Swyddfa Bost Tondu, a gosodwyd uned ar ffurf mynydd chwarae amlweithgaredd yn Heol y Goedwig, Porthcawl. Mae’r holl gyfleusterau’n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Rydym yn credu y dylai bob plentyn gael mynediad cyfartal i’r cyfleoedd chwarae gorau. Pan fydd gweithgareddau newydd yn cael eu gosod mewn meysydd chwarae lleol, mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu offer cynhwysol.
Mae’n wych gweld offer newydd yn cael ei gyflwyno mewn meysydd chwarae sy’n hwyl i bob plentyn eu defnyddio, nid dim ond plant nad ydynt yn anabl.
Mae’r meysydd chwarae hyn nid yn unig yn cynnig digonedd o weithgareddau chwarae hwyliog, ond hefyd yn her i blant anabl, a rhai nad ydynt yn anabl, fel ei gilydd. Mae’r dyluniadau llawn dychymyg yn golygu y gall plant o bob gallu ddatblygu, chwilota a chanfod terfynau eu gallu mewn modd cyffrous a difyr.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau:
Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy am feysydd chwarae yn eich cymuned.