Bron i 40,000 o bobl wedi'u brechu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 26 Chwefror 2021
Mae'r ystadegau diweddaraf a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod bron i 133,000 o bobl bellach wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn coronafeirws ledled y rhanbarth, gan gynnwys 40,000 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae grwpiau blaenoriaeth un i bedwar bellach wedi'u cwblhau, ac mae'r rhaglen frechu yn canolbwyntio ar grŵp blaenoriaeth pump i naw. Gyda thua 120,000 o drigolion yn y grwpiau hyn, mae'r bwrdd iechyd yn rhagweld y bydd wedi darparu o leiaf un dos i bob person erbyn canol mis Ebrill.
Yn y cyfamser, mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n arddangos symptomau coronafeirws yn cael eu hannog i barhau i ddefnyddio cyfleusterau profi coronafeirws symudol lleol.
Ar hyn o bryd mae gan y fwrdeistref sirol ddwy uned brofi ar waith - cyfleuster symudol gyrru i mewn sydd ar gael ar hyn o bryd rhwng 9am-4pm ar safle Pwll Nofio Halo yn y Pîl (CF33 6RP), a chyfleuster profi galw heibio sy’n dal i fod ar waith rhwng 8am-8pm ym maes parcio y Neuadd Fowlio ger Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Cf31 4AH).
Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol ar gyfer y ddau gyfleuster hyn a gellir gwneud hyn ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119, tra gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad trwy ffonio 18001119.
Rhaid i unrhyw un sy'n profi peswch sych parhaus, tymheredd uchel neu newid yn eu synnwyr o flas neu arogl, drefnu prawf a hunanynysu. Mae newyddion bod y rhaglen frechu bellach wedi croesi'r marc 40,000 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn galonogol iawn, ac yn mynd â ni gymaint yn nes at allu dod allan o'r cyfyngiadau symud.
Ar yr un pryd, mae rhaglen profi cymunedol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ar fin targedu 21,500 o gartrefi yng Nghaerau, Nantyffyllon, y Pîl, Mynydd Cynffig, Corneli, Cefn Cribwr, Sarn, Abercynffig, Goetre, Ynysawdre, Bryncethin, Bryncoch, Pencoed, Hendre, Felindre and Heol-Y-Cyw. Bydd hyn yn annog pobl 11 oed a hŷn sy'n byw yn yr ardaloedd hynny, gan gynnwys y rhai sydd eisoes wedi cael eu brechu, i fynychu canolfan brofi leol ar gyfer prawf swab syml.
Gan y gall un o bob tri o bobl gael eu heintio â choronafeirws heb brofi unrhyw un o'r symptomau, pwrpas y profion cymunedol fydd ceisio adnabod pobl a allai fod yn lledaenu'r feirws heb wybod. Mae'r meysydd lle mae'r profion cymunedol yn cael eu cynnal wedi'u nodi gan ddefnyddio data a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Bydd mwy o fanylion yn cael eu datgelu yn y dyddiau nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn hyn ac yn gwneud eu rhan i helpu i atal lledaeniad y feirws.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David