Blaenoriaethu llesiant bywyd gwyllt ar gyfer gosod goleuadau newydd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 28 Ionawr 2022
Mae llesiant bywyd gwyllt ger Clwb Tennis Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i ystyried wrth osod goleuadau newydd ar lwybr cerdded poblogaidd ar draws Afon Ogwr yng Nghaeau Bontnewydd.
Ceir pont droed ar y llwybr, ac fe’i defnyddir yn aml fel llwybr osgoi rhwng Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr a Chlwb Tennis, Sboncen a Bowlio’r dref, sy’n eistedd ar ochr arall yr afon.
Cafodd goleuadau eu gosod naill ochr i’r bont droed ar uchder optimwm lefel isel i ddiogelu unrhyw ystlumod sy’n clwydo yn yr ardal a gosodwyd unedau goleuo lefel isel sy’n goleuo’r llwybr yn strategol er mwyn osgoi gormod o olau a allai darfu ar unrhyw bysgod sy’n silio yn yr afon.
Cytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i osod goleuadau stryd LED newydd ar ran y clwb ar ôl iddynt gynnig i ariannu’r gwaith er budd aelodau sy’n dewis defnyddio’r llwybr a chroesi’r bont i gyrraedd eu cyfleusterau.
Dywedodd Dr Ed Wilkins, Cadeirydd Clwb Tennis, Sboncen a Bowlio Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae wedi bod yn fraint gweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y mater hwn. Diolchaf iddynt am eu cyngor a chefnogaeth arbenigol wrth ddatrys y mater Goleuadau a Diogelwch a helpu i sicrhau diogelwch ein Haelodau a’r cyhoedd yn yr ardal hon, wrth hefyd helpu i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar y bywyd gwyllt lleol.”
Wrth weithio ochr yn ochr â’r Clwb Tennis, Sboncen a Bowlio, roeddem yn medru gwneud y llwybr yn fwy golau ac yn fwy hygyrch ar gyfer pobl sy’n dymuno ymweld â’r clwb a defnyddio’r cyfleusterau, wrth barchu pwysigrwydd ecoleg a bywyd gwyllt yr ardal gyfagos ar yr un pryd.
Dyma enghraifft wych o sut allwn weithio mewn partneriaeth, ac rwy’n gobeithio y bydd y goleuadau newydd yn gwneud y llwybr yn fwy cysurus, diogel a chyfleus i aelodau’r clwb, pobl sy’n mynd â chŵn am dro a phobl sy’n mynd am dro o gwmpas Caeau Bontnewydd.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau