Baneri yn rhoi gwybod i yrwyr am gar camera newydd y cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 31 Gorffennaf 2018
Mae plant ysgol wedi dylunio baneri lliwgar i dynnu sylw at gar camera newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n targedu arferion parcio peryglus y tu allan i ysgolion.
Y mis diwethaf, enillodd Thomas Lewis, disgybl yn Ysgol Gynradd Cwmfelin, gystadleuaeth i enwi’r car, â’i gynnig buddugol ‘Roly Patroly’. Cynhaliwyd ail gystadleuaeth yn gwahodd y plant i ddylunio baneri sy’n rhoi gwybod i yrwyr am y car camera.
Cafodd baneri wedi eu hargraffu â’r dyluniadau buddugol eu dosbarthu i ddisgyblion mewn naw ysgol ar draws y fwrdeistref sirol cyn diwedd y tymor, a rhoddwyd tystysgrifau a thalebau i wobrwyo’r enillwyr!
Bydd y car camera newydd hwn yn gyfaill i’r plant, gan wneud y strydoedd y tu allan i’w hysgolion yn fwy diogel, ac felly roeddem ni’n credu y byddai’n hwyl gofyn i ddisgyblion enwi’r car a dylunio baneri.
Roedd eu syniadau am faneri yn anhygoel a byddant yn helpu i ledaenu’r neges bod Roly Patroly yn recordio unrhyw yrwyr anystyriol sy’n parcio eu ceir yn anghyfreithlon ym mharthau ‘cadw’n glir’ yr ysgolion a mannau cyfyngedig eraill sy’n rhoi plant mewn perygl.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau
Ychwanegodd y Cynghorydd Young: “Er bod yr ysgolion ar gau dros yr haf, mae Roly Patroly yn dal wrth ei waith! Yn ystod y gwyliau, bydd yn recordio y rhai sy’n parcio’n beryglus yng nghanol trefi ac ardaloedd pwysig eraill, megis gorsafoedd bysiau, croesfannau cerddwyr, clirffyrdd a mannau lle na chaniateir llwytho. Parciwch yn ddiogel ac yn ystyriol.”