Bagiau gwastraff cŵn rhad ac ddim ar gael ar hyd y llwybrau cerdded poblogaidd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 17 Awst 2018
Bydd bagiau gwastraff cŵn yn rhad ac am ddim ar gael i'w defnyddio ar hyd 15 o lwybrau cerdded poblogaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr hydref hwn.
Bydd y safleoedd bagiau gwastraff newydd yn cael eu gosod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl treialu'r syniad yn llwyddiannus ym Mharc Welfare Maesteg ac yng nghaeau chwarae Woodlands ym Mhencoed.
Gwastraff cŵn yw un o'r rhwystredigaethau mwyaf yn ôl yr etholwyr. Ers inni osod y safleoedd bagiau gwastraff cŵn mewn dwy ardal broblemus y llynedd, heb os nac oni bai, mae gwelliant wedi bod wrth i fwy o berchnogion cŵn ddefnyddio bagiau a thaflu gwastraff eu cŵn i'r bin.
Felly, rydym yn hapus iawn o fod wedi sicrhau cyllid i osod mwy ohonyn nhw mewn mannau ym Mhorthcawl, Llangrallo, Tondu, Heol Y Cyw, Cwmogwr, Y Pîl, Mynyddcynffig, Bracla, Maesteg a Phencoed, lle mae gennym broblemau penodol â lleiafrif o berchnogion hunanol ar hyn y bryd.
Ymgynghorwyd â chynghorau cymuned a thref ynglŷn â'r cynlluniau a phenderfynwyd ar y lleoliadau lle'r oedd y problemau mwyaf yn eu barn nhw. Does dim esgus o gwbl i unrhyw berchennog ci beidio â chodi gwastraff y ci. Byddwch yn ystyriol o eraill - i'r bag, i'r bin
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Fis diwethaf, cytunodd Aelodau Cabinet o'r cyngor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni dros gynnig i gyflwyno dirwy hyd at £100 i berchnogion cŵn nad ydynt yn codi gwastraff eu hanifeiliaid mewn mannau cyhoeddus.
Os bydd trigolion yn cefnogi'r syniad, bydd hi'n drosedd i berchennog ci beidio â chario bagiau gwastraff pan fydd yn cerdded y ci, neu'n methu â'u cadw dan reolaeth.
Ategodd y Cynghorydd Young: "Rydym yn benderfynol o lanhau ein strydoedd a'n parciau wrth leihau gwastraff cŵn. Mae'n ffiaidd, mae'n drewi ac mae'n beryglus i blant. Rwy'n erfyn ar bob perchennog i gymryd cyfrifoldeb - pan rydych chi'n gadael gwastraff cŵn ar ein strydoedd a'n parciau, rydych chi'n dinistrio ein cymunedau. Mae gwastraff cŵn yn ffiaidd, mae'n drewi ac mae'n beryglus i blant. Byddwn yn cyhoeddi sut y gall trigolion rannu eu barn yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.
"Hoffwn bwysleisio bod bagiau gwastraff cŵn yn gallu cael eu taflu i unrhyw fin cyhoeddus, nid i'r rhai penodol ar gyfer cŵn yn unig. Neu, os nad ydych yn gallu dod o hyd i fin cyhoeddus, ewch â'ch bag adref gyda chi a'i roi yn y bin."