Awgrymiadau ailgylchu i ddisgyblion Llidiard
Poster information
Posted on: Dydd Iau 21 Mehefin 2018
Disgyblion Ysgol Gynradd Llidiard yn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gymunedol Maesteg.
Gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Kier yn awyddus i addysgu’r genhedlaeth nesaf am ailgylchu, fe wnaethant wahodd grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Llidiard i ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu Gymunedol ym Maesteg.
Mae’r ysgol wedi cyflawni statws platinwm y rhaglen Eco-Sgolion – y wobr uchaf a roir i ysgolion – ac mae’r disgyblion sydd ar y cyngor eco yn llawn syniadau i annog eu cyd-ddisgyblion i feddwl mwy am faterion eco a sut i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Un o’r mentrau sydd ganddynt yw rhoi Esgid Aur yn wobr i’r dosbarth sy’n ailgylchu’r nifer mwyaf o boteli plastig bob wythnos!