Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Athro o Ysgol Gynradd Penybont yn cael ei choroni'n 'Athro'r Flwyddyn' ac yn sicrhau tair buddugoliaeth i Gymru mewn gwobrau ffilm

Hoffai Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr longyfarch Jemma Evans, athro o Ysgol Gynradd Penybont, a chipio gwobr 'Athro'r Flwyddyn' yng ngwobrau llewyrchus Into Film.

Mae Jemma yn frwd iawn dros rannu ei diddordeb enfawr mewn ffilm gyda'i disgyblion. Mae'n falch y bydd hyn yn chwarae rôl bwysig o fewn y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dywedodd Jemma, "Rwy'n falch iawn o fod wedi ennill Athro'r Flwyddyn, a sicrhau tair buddugoliaeth i Gymru".

"Mae ffilm yn chwarae rhan bwysig iawn yn y cwricwlwm newydd, ac felly, mae'r gydnabyddiaeth i fi fy hun, ac i Ysgol Gynradd Penybont, yn bwysig iawn o ran lledaenu'r neges ymhlith athrawon ac ysgolion eraill, sef y gall ffilm wneud gwahaniaeth mawr i gyrhaeddiad academaidd plant.  

"Dechreuais ddisgyn mewn cariad gyda ffilm yn yr 80au - roedd fy nhad yn mynd â fi'n aml i'r siop fideo i logi ffilmiau, ac roedden ni'n mynd fel teulu i'r sinema leol. Dw i wir yn credu bod sinema'n bwerus. Yn ogystal â bod yn ddihangfa o fywyd bob dydd, mae gwylio ffilmiau'n gadael i mi ddatblygu safbwynt newydd ar fywyd. Cerddais i gopa Kilimanjaro i godi arian ar gyfer Tenovus Cancer Care a ffilmio'r holl daith ar fy GoPro.

"Mae ffilm yn ffordd arbennig o gofnodi atgofion ac adrodd eich stori'ch hun. Dw i ar bigau i fynd yn ôl i'r dosbarth a pharhau i helpu fy nisgyblion i dyfu, i ddysgu a magu hyder i rannu eu straeon eu hunain er mwyn i eraill gael eu clywed," meddai Jemma.

Yn ychwanegol at hyn, derbyniodd yr athro arloesol gyfarchiad i'w llongyfarch gan yr actor o Gymru, Rhys Ifans, sydd wedi'i chanmol am ddefnyddio ffilm i "ysbrydoli yn y dosbarth”.

Llongyfarchiadau Jemma am ennill gwobr mor arbennig, ac am adlewyrchu'r ansawdd gwych o addysgu rydyn ni mor ffodus o’i gael ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Jemma ac Ysgol Gynradd Penybont wedi dangos bod ffilm yn gallu cydio yn nychymyg disgyblion yn y dosbarth, ac yn cynnig buddion ehangach i'w dysg yn gyffredinol. Gyda'r cwricwlwm newydd yn dod i rym fis Medi, bydd yn ddiddorol gweld sut ellir defnyddio ffilm mewn agweddau eraill ar ddatblygu'r celfyddydau mynegiannol. Rwy'n sicr y bydd Jemma wedi ysbrydoli eraill!

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell

Chwilio A i Y