Atgyweirio pafiliynau chwaraeon ar ôl difrod gan storm na welwyd ei thebyg o’r blaen
Poster information
Posted on: Dydd Llun 23 Ebrill 2018
Mae gwaith atgyweirio yn mynd yn ei flaen mewn pum pafiliwn chwaraeon ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd yn dal i fod ar gau i’w hatgyweirio yn dilyn difrod gan storm ddifrifol fis diwethaf.
Pan ddaeth y tywydd garw o’r dwyrain a storm Emma i’n harfordir yn gynnar ym mis Mawrth, achosodd tymheredd eithriadol o isel i bibelli rewi a thorri, gan arwain at lawer o ddifrod dŵr ym Mhafiliwn Bowlio Cae Gof, Pafiliwn Chwaraeon Cae Gof, Pafiliwn Heol Felindre, Pafiliwn Heol y Cyw, Pafiliwn Llangeinwyr a Phafiliwn Llangynwyd.
Er ei bod yn bosibl chwarae ar y caeau chwarae ym mhob safle, mae nenfydau'r pafiliynau wedi eu difrodi, y waliau yn llawn dŵr a gosodiadau trydanol wedi eu heffeithio gan ddŵr hefyd.
Yn ffodus, mae pafiliwn Llangeinwyr wedi cael llawer llai o ddifrod na’r lleill ac mae eisoes wedi ailagor, ac mae gweithwyr o dîm Cynnal a Chadw Adeiladau'r Cyngor yn gwneud eu gorau glas i sychu ac ailwampio Pafiliwn Heol Felindre ym Mhencoed a Phafiliwn Heol y Cyw er mwyn gallu eu defnyddio o fis Mai ymlaen.
Dylai pafiliwn caeau chwarae Llangynwyd ar Heol Maesteg fod yn ddigon sych i ddechrau gwaith atgyweirio ym mis Mai a fydd yn cynnwys plastro, gwaith ar y nenfwd a phaentio. Mae angen gwneud gwaith coed amrywiol ac mae angen gosod offer trydan newydd. Rhagwelir y bydd y pafiliwn yn barod i’w ddefnyddio tua diwedd mis Gorffennaf os aiff popeth yn ôl y cynllun.
Mae angen gwneud gwaith tebyg yng Nghefn Cribwr, ar Bafiliwn Bowlio Cae Gof a Phafiliwn Chwaraeon Cae Gof. Ar ôl i bibell ddŵr dorri yn yr atig cafwyd llifogydd ar y ddau lawr islaw, a oedd yn golygu bod llawer o ddifrod i’r nenfydau, y llawr finyl a’r llawr pren. Disgwylir i’r ddau adeilad ailagor ym mis Gorffennaf.
Mae caeau rygbi a phêl-droed Cae Gof ar gael i’w defnyddio a bydd y lawnt bowlio ar gael ar ddechrau'r tymor bowlio.
Roedd y tywydd garw o’r dwyrain yn wael iawn ac achosodd y tywydd difrifol ddifrod sylweddol i nifer o bafiliynau chwaraeon yn y fwrdeistref sirol yn ogystal ag i sawl ysgol.
Mae aelodau staff yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cyfleusterau pwysig hyn yn ddiogel i’w defnyddio eto cyn gynted â phosibl, a hoffem ni ddiolch i dimau chwaraeon a defnyddwyr rheolaidd y pafiliynau am eu hamynedd wrth i’r atgyweiriadau hanfodol hyn gael eu gwneud. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.
Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau