Atgoffa preswylwyr i gael gwared ar asbestos yn gywir
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 05 Chwefror 2021
Mae preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hatgoffa i gael gwared ar asbestos yn ddiogel a chywir.
Dim ond mewn sgip arbenigol yng nghanolfan ailgylchu gymunedol Llandudwg, sydd â thrwydded tipio gan bartneriaid gwastraff y cyngor, Kier, mae asbestos yn cael ei dderbyn. Codir ffi yn seiliedig ar gyfanswm yr asbestos, am ei fod yn wastraff peryglus.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams: "Mae'n bwysig fod preswylwyr yn cael gwared ar y deunydd peryglus hwn yn y ffordd gywir.
"Os bydd yn cael ei ollwng mewn sgipiau eraill yn ein canolfannau ailgylchu cymunedol, bydd yn llygru gwastraff eraill, ac ni ellir defnyddio'r sgip hyd nes y gellir gwneud trefniadau i ddelio gyda'r asbestos, gan amharu ar ddefnyddwyr eraill.
"Os ydych angen cael gwared ar asbestos, cysylltwch â Kier i drefnu trwydded er mwyn cael gwared ar y deunydd yn Llandudwg. Os ydych yn cyflogi gwasanaethau contractwyr preifat, mae'r contractwyr yn gyfrifol am gael gwared ar asbestos mewn ffordd ddiogel mewn cyfleuster trwyddedig."
Gellir cysylltu â Kier ar 01656 643643 neu drwy e-bostio recyclingandwaste@bridgend.gov.uk.
Ar hyn o bryd mae canolfannau ailgylchu cymunedol ar agor bob dydd o 9am i 4pm i'w defnyddio'n hanfodol yn ystod y cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar yn unig. Gofynnir i breswylwyr fod yn ymwybodol y gallai giatiau gau 20 munud yn gynharach i hwyluso'r ceir sydd eisoes mewn ciw ar y safle.
Mae mesurau diogelwch wedi'u sefydlu a dylid cadw at yr holl reolau o gadw pellter cymdeithasol. Mae'n debygol y bydd ciwiau oherwydd cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael dod i mewn ar unrhyw un adeg.
Rhaid i chi wahanu'ch gwastraff cyn i chi gyrraedd ac ar hyn o bryd nid yw staff yn gallu helpu i gario eitemau o'r cerbydau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we canolfannau ailgylchu cymunedol y cyngor.