Atgoffa pobl i gadw pellter cymdeithasol cyn penwythnos Gŵyl y Banc
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 28 Mai 2021
Mae'n addo tywydd braf dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Mai, ac ar ddechrau'r wythnos nesaf, felly mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa pobl i gofio cadw pellter cymdeithasol wrth iddynt ymlwybro tuag at draethau a mannau hardd.
Wrth iddi ddechrau cynhesu yn ystod y dyddiau nesaf, ac wrth i bobl fwynhau'r awyr agored, rydym yn gofyn i bawb sicrhau eu bod nhw'n parhau i gadw pellter cymdeithasol a bod yn ystyriol o'r cymunedau lleol sy'n denu nifer uchel o ymwelwyr.
Nid dyma'r amser i fod yn hunanol, ac rydym yn annog pawb i fod yn wyliadwrus ac i ddilyn y canllawiau sy'n cynnwys golchi dwylo a gwisgo gorchudd wyneb os bydd gofyn gwneud hynny.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David
I gael rhagor o wybodaeth ar ganllawiau ar sut i gadw'n ddiogel a pha reolau sydd ar waith i ddiogelu pobl yn ystod Lefel Rhybudd 2, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.