Ateb cwestiynau am wastraff ac ailgylchu
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 06 Mai 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn nifer fawr o sylwadau ac ymholiadau am ailgylchu a gwastraff yn ystod pandemig parhaus y coronafeirws Covid-19. Yma, mae’r Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau, yn ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin.
C: Pam nad yw’r cyngor yn cynyddu’r cyfyngiad gwastraff dau fag bob pythefnos pan mae mwy o wastraff yn cael ei greu oherwydd bod pobl yn treulio mwy o amser gartref oherwydd y cyfyngiadau symud?
Y Cynghorydd Young: I ddechrau, mae’r mwyafrif helaeth o’r gwastraff ychwanegol sy’n cael ei roi allan fel sbwriel yn cynnwys eitemau y mae posib eu hailgylchu yn bennaf. Heb unrhyw gyfyngiadau ar faint o ailgylchu y gellir ei roi allan, ni ddylai mwyafrif y tai gael unrhyw broblemau, dim ond eu bod yn defnyddio eu hailgylchu i’r eithaf, ac wedyn ychydig iawn fydd ar ôl i fynd i mewn i’r bag sbwriel.
Yr ail beth yw y dylid sylweddoli bod Kier yn gweithredu ar hyn o bryd gyda hyd at 25 y cant o’i weithlu arferol, ac mae llawer o’r staff yn hunan-ynysu oherwydd y pandemig. Mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd mwy o amser i’w casglu os bydd mwy o fagiau’n cael eu rhoi allan, ac efallai na fydd rowndiau dyddiol yn cael eu cwblhau.
Y ffordd orau o sicrhau bod casgliadau’n gallu parhau fel arfer drwy gydol y pandemig yw drwy ofyn i breswylwyr ailgylchu eu gwastraff gymaint â phosib, a chadw at y cyfyngiad o ddau fag. Bydd hyn yn golygu nad oes neb ar eu colled a bod posib rheoli rowndiau’n ddiogel a’u cwblhau mewn pryd, er bod hynny o dan amgylchiadau heriol iawn.
Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa wrth i amser fynd rhagddo ond, yn gyffredinol, rydym wedi cael sylwadau positif iawn am y gwaith mae’r criwiau wedi bod yn ei wneud. Maen nhw ymhlith ‘arwyr tawel’ yr argyfwng yma ac rydym yn diolch i’r preswylwyr am werthfawrogi eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol yma.
C: Ydi’r cyfyngiad gwastraff dau fag yn arwain at fwy o daflu sbwriel yn anghyfreithlon?
Y Cynghorydd Young: Er gwaetha’r pandemig, rydym yn parhau i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff swmp, a gyda thai’n gallu rhoi cymaint o ailgylchu â sydd angen allan, does dim rheswm i unrhyw un daflu gwastraff yn anghyfreithlon. Mae hyn yn hynod anghyfrifol yn ystod argyfwng cenedlaethol, ac er ein bod wedi gweld cynnydd mewn hysbysu am daflu sbwriel yn anghyfreithlon, rydym yn ei glirio cyn gynted â phosib o dan yr amgylchiadau.
Rhaid i bawb ‘wneud eu rhan’ yn ystod y pandemig, a hyd nes gall pethau fynd yn ôl i drefn, rydym wedi apelio ar berchnogion tai i storio unrhyw wastraff nad oes posib ei ailgylchu neu ei roi allan i’w gasglu nes bydd y canolfannau ailgylchu cymunedol yn ailagor.
Rydym yn ymwybodol bod nifer fawr o fusnesau’n cynnig gwasanaethau ‘casglu gwastraff’ yn ystod y pandemig, ac er bod gan rai drwyddedau gwastraff, nid yw hynny’n wir am lawer. Mae’r Cydwasanaethau Rheoleiddiol yn cynnal archwiliadau a bydd y cyngor bob amser yn gweithredu yn erbyn unrhyw un sy’n taflu sbwriel yn anghyfreithlon.
C: Pam na wnewch chi ailagor y Canolfannau Ailgylchu Cymunedol?
Y Cynghorydd Young: Y rheswm pennaf dros hyn yw am fod y staff ym mhob safle wedi cael eu symud er mwyn sicrhau bod casgliadau ailgylchu a sbwriel dyddiol yn gallu parhau i weithredu, ond mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi dweud droeon mai dim ond teithio hanfodol ddylai ddigwydd ac y dylid cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol.
Mae’n amhosib sicrhau hyn mewn canolfannau ailgylchu cymunedol ac nid yw ‘trip i’r tip’ yn deithio hanfodol. Mae’r sefyllfa’n cael ei monitro yn ofalus iawn a byddwn yn ceisio ailagor y safleoedd cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
C: Pam mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd wedi stopio?
Y Cynghorydd Young: Yr unig reswm dros stopio’r gwasanaeth hwn oedd am fod y contractwr oedd yn compostio’r gwastraff gardd wedi stopio darparu gwasanaeth oherwydd effeithiau’r pandemig.
Mae holl gwsmeriaid y gwasanaeth yn cael ad-daliad llawn wrth i ni chwilio am ddarparwr arall. Os gellir ailsefydlu’r gwasanaeth yn gyflym, rydym yn gobeithio gallu ailddechrau cynnig y gwasanaeth yn ystod yr wythnosau nesaf – cadwch lygad am fwy o newyddion am hyn.
Pam mae dau neu dri aelod o staff Kier i’w gweld gyda’i gilydd o hyd mewn cerbydau sbwriel er gwaethaf rheoliadau’r llywodraeth am gadw pellter yn y gweithle?
Y Cynghorydd Young: Rydym yn cadw at reoliadau’r Llywodraeth – mae’n bwysig cofio eu bod yn cynnwys rhai eithriadau, yn seiliedig ar fod yn rhesymol. Er enghraifft, ni fyddai disgwyl i Kier logi na phrynu cerbydau ychwanegol er mwyn lleihau nifer y staff ym mob cab.
Ond mae disgwyl iddynt weithredu mesurau eraill i liniaru unrhyw risgiau ac maent wedi rhannu eu canllawiau gyda ni, sy’n dangos eu bod wedi dosbarthu cyfarpar diogelu personol priodol, wedi gweithredu mesurau glanweithdra ac wedi addasu arferion gwaith yn unol â hynny.
Ydi casglwyr sbwriel y cyngor yn dal i weithio fel arfer?
Y Cynghorydd Young: Ydyn, rydym yn dal i ddefnyddio’r casglwyr sbwriel mewn ardaloedd blaenoriaeth. Byddech yn disgwyl i finiau sbwriel fod yn wag yn ystod y cyfyngiadau symud, ond rydym yn gweld bod pobl yn eu defnyddio i gael gwared ar fwyd a gwastraff tŷ arall – sy’n ddiangen wrth gwrs oherwydd gallant roi cymaint o ailgylchu ag y maent yn ei ddymuno allan. Felly mae ein staff yn eu gwagio i atal problemau pellach, fel llygod.
A fyddai modd gwneud gwell defnydd ohonynt yn rhywle arall? Byddai mae’n debyg. Mae rhai staff wedi cael eu hyfforddi er mwyn cynorthwyo gyda chasgliadau gwastraff, er enghraifft, ac os bydd pobl yn defnyddio’r system ailgylchu yn briodol ac yn stopio llenwi’r biniau, gallem edrych ar ardaloedd eraill ble gallent gynnig eu cefnogaeth.
Beth arall all trigolion y fwrdeistref ei wneud i helpu yn ystod y cyfnod yma?
Y Cynghorydd Young: Os yw pobl yn hunan-ynysu, rhowch eich sbwriel mewn bagiau dwbl i helpu gydag atal cyswllt. Os yw haint y feirws yn eich tŷ chi, arhoswch am isafswm o 72 awr cyn cyflwyno eich gwastraff ar gyfer ei gasglu. I helpu lorïau sbwriel a cherbydau eraill i gwblhau eu rowndiau, parciwch yn ystyriol a gadael digon o le iddynt fynd drwodd.
Gallwch chi helpu i gadw ein casglwyr sbwriel yn ddiogel drwy gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol. Defnyddiwch y gwasanaeth casglu gwastraff swmp neu storio eitemau yn eich cartref nes bod y canolfannau ailgylchu cymunedol yn ailagor.
Gyda siopau elusen ar gau a banciau dillad ddim yn cael eu gwagio, daliwch eich gafael mewn unrhyw gyfraniadau o ddillad nes bod posib eu derbyn eto. Mae ein staff yn ceisio clirio unrhyw fagiau sydd wedi cael eu gadael yn y lleoliadau hyn ond mae’n parhau i gael ei ddosbarthu fel taflu sbwriel yn anghyfreithlon ac yn drosedd gyfreithiol.