Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arwyr lleol yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2022

Mae dau blentyn dewr oed ysgol gynradd, podlediad cymunedol a chyn-athletwr Olympaidd ymysg enillwyr Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2022 eleni.

Mae’r gwobrau, a drefnwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cydnabod cyflawniadau rhagorol trigolion sydd wedi rhoi eu cymuned ar y map, neu sy’n mynd un cam ymhellach yn rheolaidd i wneud gwahaniaeth.

Rydym wedi profi caredigrwydd, dewrder a chyflawniadau rhagorol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cawsom lu o enwebiadau eleni, ac nid hawdd oedd dewis yr enillwyr o’u plith. Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfoeth o unigolion a grwpiau arbennig sy’n fodlon mynd y tu hwnt i’r gofyn er mwyn helpu eraill.

Rwyf wedi cael y fraint eleni o gwrdd â nifer o’n henillwyr er mwyn cyflwyno eu gwobrau iddynt, ac edrychaf ymlaen at gwrdd â mwy dros y dyddiau nesaf.

Maer John Spanswick

Mae enillwyr gwobrau 2022 fel a ganlyn:

Lads and Dads

Cafodd Lads and Dads, grŵp cymorth ac iechyd meddwl i ddynion sy’n cael ei redeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei enwebu gan nifer o drigolion yn y fwrdeistref sirol. Cawsant eu canmol am eu gwaith “anhygoel” yn ystod y pandemig, yn helpu unigolion a oedd yn ei chael hi’n anodd gyda’u hiechyd meddwl. Ar hyn o bryd, mae gan y grŵp cymorth, cwbl gyfrinachol, dros 1100 aelodau.

Charlie a Harris Griffiths

Mae Charlie, 7, a Harris, 4, wedi cael eu canmol am eu dewrder wrth achub bywyd eu mam. Pan gafodd eu mam, Ria Griffith, drawiad difrifol, cymerodd y brodyr gamau ar unwaith. 

Arweiniodd eu hymateb prydlon at alw'r gwasanaethau brys a’u diweddaru ar y sefyllfa wrth i’r ddau ohonynt barhau i gysuro a thawelu meddwl Ria, a oedd yn anymwybodol ac mewn sefyllfa lle y gallai fod wedi colli ei bywyd.

Dywedodd Ria: "Ddydd Sadwrn 6 Tachwedd, cymerais dro er gwaeth – dechreuais golli’r teimlad yn fy ochr chwith, a chwympais ar fy soffa a phrofais drawiad difrifol.

“Aeth Charlie a Harris ati yn syth i ffonio 999 ac egluro fy mod yn cysgu ac yn methu â deffro. Nid oedd Charlie'n gwybod beth oedd y cyfeiriad gan ein bod newydd symud i’r eiddo, felly dywedodd wrth dderbynnydd y galwad y byddai’n ffonio’n ôl ar ôl dod o hyd i’r cyfeiriad.

“Ffoniodd fy ffrind gorau, fy mam a’m mhartner, a dweud wrthyn nhw beth oedd yn digwydd a gofyn am ei gyfeiriad er mwyn gallu dweud wrth y ddynes ar y ffôn.

“Cyn iddo allu ffonio’n ôl, roedd fy ffrind wedi cyrraedd ac yn siarad gyda 999 ei hun. Tra ei bod hi ar y ffôn, roedd Charlie a Harris yn fy nghysuro i drwy’r adeg, yn cusanu fy mhen, yn gwasgu fy llaw ac yn dweud y bydd popeth yn iawn.

"Nhw yw fy arwyr go iawn i, ac maent wedi achub fy mywyd. Rwy’n fam falch tu hwnt.” 

G Williams

Gwobrwywyd G, y Dirprwy Faer Ieuenctid presennol, am ei waith i wella hygyrchedd a gwasanaethau ar gyfer y gymuned LGBTQ. Lluniodd gwrs hyfforddiant Ymwybyddiaeth Traws a gafodd ei gyflwyno i ystod o awdurdodau lleol, yn ogystal ag i ystod o wasanaethau, sefydliadau a’i gyfoedion. Disgrifiwyd G fel “ymgeisydd rhagorol” ar gyfer y wobr ar ôl ei “ymrwymiad i allgymorth cymunedol a hawliau cyfartal ar gyfer pob person ifanc.”

Bravo

Mae’r grŵp gwirfoddol Bravo wedi derbyn Gwobr Dinasyddiaeth y Maer am eu gwaith i geisio gwella pentref Melin Ifan Ddu. Mae aelodau wedi peintio llochesi bysiau, wedi plannu blodau ac wedi gosod seddi sydd wedi’u hailgylchu. Mae Bravo hefyd yn trefnu digwyddiadau ar gyfer y gymuned, fel rhoi’r goleuadau Nadolig ymlaen yng nghwmni Band Arian Cwm Ogwr.

Tremains Woodland Rangers

Mae’r grŵp gwirfoddol hwn wedi gweithio’n galed dros y tair blynedd diwethaf i wneud coetir Tremain yn fwy hygyrch i’r gymuned leol. Mae eu hymdrechion wedi arwain at ennill gwobr y Faner Werdd yn ogystal â chydnabyddiaeth yng Ngwobrau Dinasyddiaeth y Maer eleni.

Mrs Nik Dart

Nik yw cydlynydd tîm Ymatebwyr Cymorth Cyntaf Cymuned Maesteg, sef grŵp o wirfoddolwyr sy’n treulio eu hamser rhydd yn ymdrin â galwadau 999 priodol ac yn cynnig gofal brys uniongyrchol i unigolion yn eu cymuned.

Yn ogystal ag ymateb i alwadau 999 ar ran y gwasanaeth ambiwlans, mae Nik yn cynnig ymateb cyntaf-i-gyrraedd ar gyfer ystod o gleifion, gan gynnwys trawiadau ar y galon, ffitiau ac argyfyngau diabetig.

Cafodd Nik hefyd ei henwebu am wobr am ei gwaith fel cadeirydd corff llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, lle mae'n arwain y corff llywodraethu ar bob mater strategol ac yn gwirfoddoli ei hamser er mwyn sicrhau'r gorau i'r ysgol, ei disgyblion, a'r gymuned.

Jaxon Trudgian

Cododd Jaxon, sy’n ddeng mlwydd oed ac yn byw ag awtistiaeth ac ADHD, dros £1,100 drwy feicio 100 milltir yn ystod mis Medi 2021. Cafodd yr arian ei godi ar gyfer InclusAbility, grŵp sydd wedi helpu Jaxon ac sy’n cefnogi plant eraill sy’n profi anawsterau tebyg iddo.

Dywedodd ei fam, Sharon Trudgian: “Roedd hwn yn her ac yn llwyddiant personol enfawr i Jaxon, gan ei fod wedi cymryd mor hir i feicio’r pellter oherwydd ei gyflwr a’r ffaith ei fod yn colli ei falans.

“Fe gwympodd sawl tro, ond fe ddaliodd ati bob dydd drwy gydol y mis er mwyn cwblhau’r her a chodi arian ar gyfer InclusAbility.”

BAVO

Mae grŵp gwirfoddol BAVO wedi derbyn Gwobr Dinasyddiaeth y Maer ar ôl camu ymlaen i gynorthwyo aelodau bregus o’r gymuned yn ystod y pandemig Covid-19.

Atebodd tua 600 o wirfoddolwyr alwad i helpu unigolion gwirioneddol fregus, drwy gyfeillio a gwirio llesiant meddyliol ac emosiynol trigolion, casglu meddyginiaeth a fyddai’n achub bywydau a chludo cleifion gartref o’r ysbyty.

Arwyr Gwastraff Bwyd Olio

Cafodd y grŵp gwirfoddol hwn eu gwobrwyo am gasglu bwyd dros ben yn eu cymuned a’u rhannu ag unigolion a theuluoedd mewn angen. 

Casglodd y tîm bychan o wirfoddolwyr fwyd o siop Tesco leol ar gyfer Olio, sy’n sefydliad sy’n gweithredu ledled y DU. Prif nod Olio yw lleihau gwastraff bwyd drwy gasglu cynnyrch sy’n agosáu at eu dyddiad terfynol a’u rhannu â phobl yn y gymuned leol.

Mae’r rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn gwneud dau gasgliad yr wythnos, gyda’r bwyd wedyn yn cael ei rannu gyda dewis amrywiol o bobl.

Prosiect Plant a Theuluoedd SPLICE

Mae SPLICE yn sefydliad elusennol arall sydd wedi helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ystod y pandemig. 

Mae’r elusen yn cefnogi rhieni a phlant rhwng 0-5 mlwydd oed ac mae wedi cyflwyno gwasanaeth gollwng er mwyn danfon eitemau babanod hanfodol fel fformiwla llaeth babi, clytiau, bwyd babi ac weipiau at stepen ddrws teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol.

Mae SPLICE yn parhau i gynnal banc babi ynghyd â pharseli bwyd mewn argyfwng, ac mae bellach yn cynnig dillad ac offer babanod fel pramiau ar gyfer teuluoedd sydd mewn angen.

Caerau Menshed

Mae'r grŵp cymunedol hwn yn cynnig cymorth a gwasanaethau i Gwm Llynfi. 

Drwy gydol y cyfnod clo, roeddynt yn rhannu a danfon bwyd i bobl a oedd yn hunanynysu, unigolion a oedd yn cysgodi ac unigolion nad oeddynt yn medru fforddio prynu bwyd. Mae’r grŵp hefyd wedi ymgymryd â gwaith garddio gwirfoddol mewn ysgolion a chartrefi pobl.

Dros y Nadolig, aeth Caerau Menshed ati i adeiladu groto a threfnu ymweliadau i weld Siôn Corn, yn ogystal â gwerthu coed Nadolig, gyda’r elw’n cael ei roi i ysgolion, caeau chwarae, Dechrau’n Deg a sefydliadu lleol.

Canolfan Gymdeithasol Caerau

Mae Canolfan Gymdeithasol Caerau wedi derbyn gwobr am eu gwaith yn y gymuned drwy gydol y pandemig. 

Gwnaethant sicrhau bod yr henoed ac unigolion bregus, ac unigolion a oedd yn cysgodi, yn cael prydau poeth wedi’u paratoi’n ffres. Maent wedi parhau i ddangos ewyllys da drwy greu pecynnau cinio ar gyfer plant lleol pan nad oedd yr ysgolion ar agor, cynnig cinio dydd Sul wrth y bwrdd i’r henoed, a dros y Nadolig, aethant ati i drefnu parêd yng Nghaerau, a oedd yn cynnwys fflôt Siôn Corn.

Y Tad Jonathan Durley

Cafodd Jonathan, un o arwyr y pandemig, ei ddewis fel un o enillwyr y gwobrau ar ôl gwirfoddoli i ddanfon prydau poeth a chynnig gwasanaethau eraill i drigolion bregus ledled Mynydd Cynffig, y Pîl, Gogledd a De Corneli a Chynffig.

Gareth Edwards

Roedd Gareth Edwards yn un arall o arwyr y pandemig a gafodd ei wobrwyo am ei waith caled yn ystod y pandemig, yn danfon prydau poeth dair gwaith yr wythnos i drigolion bregus ym Mynydd Cynffig, y Pîl, Gogledd a De Corneli a Chynffig.

Those Damn Crows

Dechreuodd Those Damn Crows, band o Ben-y-bont ar Ogwr, bodlediad rhyngweithiol ar ddechrau’r cyfnod clo, er mwyn cefnogi pobl a chadw mewn cyswllt â’u dilynwyr.

Ar ôl dechrau gyda grŵp bychan o ddilynwyr, aeth y podlediad o nerth i nerth, ac mae bellach yn adnabyddus ledled y fwrdeistref sirol.

Yn ystod eu podlediad wythnosol, roedd aelodau’r band - sef Shane Greenhall, Ronni Huxford, Ian Thomas, Lloyd Wood a David Winchurch - yn cynnal cwisiau rhithiol, yn cynnal cystadlaethau am ddim, ac yn croesawu siaradwyr gwadd, yn ogystal â hyrwyddo a chydweithio â busnesau annibynnol lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Richard Goss

Mae Richard yn ennill Gwobr Dinasyddiaeth y Maer am ei waith gwirfoddol ar gyfer y Dog’s Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Ers ymuno yn 2005, mae wedi gweithio’n galed i helpu ag ymdrechion codi arian yr elusen drwy helpu fel cynorthwyydd maes parcio yn ystod diwrnodau agored, yn helpu ar stondinau, neu hyd yn oed yn gwisgo fel masgot y Dog’s Trust.

Cymuned Betws

Mae grŵp sylweddol o bobl yng Nghymuned Betws wedi cael eu cydnabod am gefnogi pobl fregus.

Yn gweithio o Ganolfan Fywyd Betws, mae aelodau’r gymuned wedi bod yn helpu i gynnig prydau poeth i unigolion llai ffodus, gan gynnwys creu dros 250 o brydau Nadolig ar gyfer pobl ddigartref, unigolion a oedd yn hunanynysu a phobl fregus.

Roedd y gymuned hefyd yn cynnig prydau i deuluoedd a oedd mewn lloches rhag trais yn y cartref ledled y fwrdeistref sirol, yn ogystal â pharatoi dros 100 o flychau esgidiau yn llawn cynnyrch hylendid hanfodol a oedd yn addas i'w rhannu ymysg elusennau digartref.

Marlas Greenspace

Mae Marlas Greenspace, grŵp cymunedol o drigolion Gogledd Corneli, wedi gweithio i wella tir nad oedd yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol er budd y gymuned leol.

Cawsant eu cefnogi a’u mentora gan Space Saviours ac Ymgynghorwyr Wild Spirit er mwyn llunio cynllun prosiect cadarn sydd wedi denu nifer o gyfraniadau gan rhanddeiliaid a phartneriaid, sydd wedi arwain at brosiect arloesol dan arweiniad trigolion sy’n cyflwyno buddion mesuradwy i’w cymuned.

Mae un prosiect wedi cynnwys adnewyddu hen ardal gompownd a oedd yn denu tipio anghyfreithlon i fod yn ganolfan gymunedol gynhwysol.

Helen Jenkins

Ychwanegodd Helen ragor o dlysau at ei tair medal Olympaidd ar ôl ennill Gwobr Dinasyddiaeth y Maer am ddefnyddio ei llwyddiant i godi arian ar gyfer clybiau chwaraeon ac elusen Felindre.                                                                                                                                        

Wedi’i geni yn yr Alban, ond ei magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yn byw yno hyd heddiw, mae Helen hefyd yn un o lysgenhadon Sefydliad Chwaraeon Halo, sy’n cefnogi ac yn datblygu athletwyr ifanc ar eu taith at y byd chwaraeon.

Mr a Mrs March

Mae’r cwpwl yma o Bencoed wedi ymroi eu hunain i’w cymuned, yn danfon bwyd at ganolfan gymunedol leol bob wythnos cyn creu pecynnau bwyd i’w danfon i’r gymuned.

Emma Kelly

Mae Emma Kelly, sy’n fam ac yn gweithio mewn dwy swydd, wedi ennill Gwobr Dinasyddiaeth y Maer ar ôl codi arian ar gyfer amrywiaeth o elusennau a gwirfoddoli ei hamser er budd eraill.

Mae Emma yn gwirfoddoli mewn amrywiaeth o leoedd ledled y fwrdeistref sirol, gan gynnwys Ysgol Gynradd Tremain, lle mae hi wedi codi dros £10,000 drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian, Alzheimer’s Society Cymru, boreau coffi McMillan, yn ogystal â’r RNLI, lle mae hi’n gweithio yn y siop RNLI.

Mr Ken Davies

Mae Ken wedi ennill gwobr am ei ymrwymiad a’i waith caled ar gyfer Clwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel dros y tri degawd diwethaf.

Mae wedi bod yn wirfoddolwr gweithgar dros y blynyddoedd, a hyd yn oed wedi rhoi peth o’i arian ei hun i’r sefydliad er mwyn sicrhau ei fod yn parhau ar agor dros y blynyddoedd.

Chwilio A i Y