Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arwyr Di-glod: Staff hybiau gofal plant brys

Mae eu rolau wedi'u trawsnewid yn llwyr dros yr ychydig wythnosau diwethaf, gan ddod yn deulu estynedig ar gyfer y plant sy'n defnyddio'r hybiau gofal plant brys.

Mae cannoedd o athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu wedi bod yn gwirfoddoli i weithio sifftiau mewn chwe phrif ysgol hyb sydd â ffocws ar sicrhau diogelwch a llesiant plant.

Mae llawer yn gweithio oriau hir, gan gyfuno'u rolau â pharatoi gwaith ar-lein ar gyfer eu dosbarthiadau eu hunain ac ymateb i'r cwestiynau a sylwadau sy'n dilyn gan ddisgyblion.

Ar hyn o bryd, mae'r hybiau – sydd ar agor o 8am i 6pm – yn eu chweched wythnos o weithredu ac mae'r mwyafrif o'r plant sydd ynddynt rhwng 4 ac 11 oed.

Ymhob hyb, mae plant yn cael eu gosod mewn grwpiau gyda'r rheiny o'u hysgol eu hunain, a chynhelir gweithgareddau drwy gydol y dydd gan gynnwys amrediad o waith celf a chrefft, dylunio, chwaraeon a gemau awyr agored a dysgu ar-lein.

Mae Joshua Slade, sydd fel arfer yn dysgu blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Litchard yn gweithio dwy sifft yr wythnos yn yr Hyb Canolog yn Ysgol Gynradd Coety ochr yn ochr â gosod gwaith ar-lein ar gyfer plant ei ddosbarth ei hun ar ddechrau pob dydd er mwyn sicrhau cynnydd yn eu sgiliau iaith a mathemateg a'u sgiliau allweddol.

Fel y cydlynydd digidol ar gyfer ei ysgol, mae hefyd wedi chwarae rhan fawr wrth ddatrys problemau TGCh sy'n ymwneud â dysgu ar-lein ar gyfer staff ac addasu gliniaduron ysgol at ddibenion gwahanol er mwyn eu rhoi i deuluoedd nad oes ganddynt fynediad i gyfrifiaduron na llechi, gan sicrhau y gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ar-lein.

Dywedodd: “Yn yr hybiau, mae popeth yn ymwneud â chynnal naws gadarnhaol a hamddenol iawn, felly mae'n awyrgylch da iawn i blant ddod i mewn iddo.

“Gyda'r tywydd braf, bu llawer o chwarae y tu allan, sydd wedi helpu i gynnal ymagwedd gadarnhaol. Rydym hefyd yn annog y plant i geisio mynd ar gyfrifiaduron a chwblhau'r tasgau mae eu hathrawon wedi'u gosod iddynt.

“Mae rhai o'r plant yno am amser hir yn ystod y dydd ac yn aml mae plant gwahanol yn dod i mewn yn ystod yr wythnos.

“Mae ein rôl yn galluogi pobl eraill yn y pandemig, sydd â swyddi hanfodol, i barhau i'w cyflawni – os oes gennym tua 10 o blant yn ein dosbarth yna mae hynny'n golygu y gall rhwng 10 ac 20 o rieni o bosib fynd i weithio mewn ysbytai neu i'r heddlu neu gasglu ein sbwriel.”

Mae Jonathan Lewis, pennaeth Ysgol Gynradd Coety ac arweinydd yr Hyb Canolog, wedi mynd o reoli ysgol o 470 o ddisgyblion i arwain un sy'n cynnwys saith ysgol gydag ystafelloedd hyb nad ydynt yn cynnwys mwy na 10 o bobl ifanc, ac amrediad o wirfoddolwyr, ar unrhyw adeg.

Dywedodd: “Mae awyrgylch hamddenol yn yr hyb ac mae pawb yn gweithio at y nod cyffredin o wneud profiad y plant sy'n mynychu yn un cadarnhaol.

“Roedd y pythefnos cyntaf yn ddiddorol a bu ychydig o heriau i ddechrau – doedden ni ddim yn siŵr faint o blant yn union a fyddai'n mynychu, na gwirfoddolwyr.

“O ganlyniad i hyn, ffurfiodd y tîm berthynas glòs ac mae hynny er budd mawr i'r plant.

“Mae'r croeso y mae ein staff yn ei roi i blant yn y bore yn bwysig iawn, mae eu rhieni'n gweithio mewn meysydd hanfodol ac rydym wedi dod yn deulu estynedig felly.

“Rydym yn darparu'r cymorth llesiant hwnnw, yr anogaeth teulu, ac yn darparu amgylchedd lle y gallant gael hwyl a lle mae eu rhieni'n gwybod eu bod yn derbyn gofal da.

“Mae'r plant yn cyrraedd gyda gwên ar eu hwyneb, gan edrych ymlaen at ddod i mewn, ac maent yn gadael yn llawn egni ac yn hapus, a dyna'n union beth rydym am iddynt ei gael o’r profiad hwn.”

Mae dirprwy bennaeth yr ysgol yn rheoli'r holl athrawon sy'n gweithio gartref sy'n gyfrifol am ddarparu gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar-lein ar gyfer disgyblion.

Mae Alice-Mae Bird, sydd fel arfer yn dysgu blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Coety ymhlith y staff dysgu gwirfoddol yn yr hyb.

Dywedodd: “Rydym am i'r hyb fod yn ail gartref ar gyfer y plant sy'n dod trwy ein drysau. Rydym wedi gwneud llawer o weithgareddau gwahanol, fel: celf a chrefft, gweithgareddau llesiant ac rydym wedi cael llawer o awyr iach.

“Pan nad wyf i yn yr hyb, rwy'n cyfrannu at y gwaith o ddarparu dysgu ar-lein. Cynllunio profiadau dysgu cyfoethog ar gyfer y plant y mae modd eu cwblhau gartref. Mae'n bwysig bod ein plant yn parhau i gael y cyfle i ddysgu.

“Mae mynd o weld fy nisgyblion bob dydd, a'r cynnydd maen nhw'n ei wneud fel pobl ifanc, i gael rhith-ddosbarthiadau yn unig, yn galed, yn enwedig gyda blwyddyn 6 gan fyddan nhw'n mynd i'r ysgol gyfun ym mis Medi.”

Yn y cyfamser, mae Delyth Powell, sy'n athrawes blwyddyn 2 yn Ysgol Bro Ogwr, wedi bod yn rhan o'r croeso yn yr Hyb Canolog bob bore rhwng 7.30am a 9.30am ers y cychwyn.

Dywedodd: “Mae'n bwysig i rieni weld yr un wynebau bob bore – rydym wedi datblygu perthynas glòs gyda nhw, mae rhai yn aros am sgwrs gyda ni wrth ollwng eu plant, mae'n amser am dynnu coes a chwerthin, a gollwng ychydig o stêm.”

Yn Hyb y Gogledd, yn Ysgol Maesteg, mae Gwennan Jones yn gweithio sifftiau hanner diwrnod rhwng tri a phedwar diwrnod yr wythnos. Yn athrawes meithrin/derbyn gyda chyfrifoldeb dros anghenion dysgu ychwanegol ar draws Ysgol Cynwyd Sant, ei rôl hefyd yw sicrhau y gall pob plentyn gael mynediad i adnoddau ar-lein.

Dywedodd: "Mae heriau i'w hwynebu yn y sefyllfa bresennol, ond wrth ymateb iddynt mae wedi dod â chymuned ein hysgol yn agosach at ei gilydd."

Mae Nicola Jones, sydd fel arfer yn athrawes a chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, yn gweithio sifftiau amrywiol yn Hyb y Gorllewin, yn Ysgol Gynradd West Park.

Dywedodd: “Mae ein rôl yn ymwneud â sicrhau'r disgyblion y bydd pethau'n dychwelyd i'r drefn arferol a'n bod ni i gyd yn wynebu hyn gyda'n gilydd.

“O ran ein dysgu ar-lein, rydym yn ceisio ymateb i blant cyn gynted ag y maen nhw'n gadael sylwadau ar eu gwaith neu'n gofyn cwestiynau, fel eu bod yn gwybod ein bod ar gael iddyn nhw.”

Yn Hyb y Dwyrain yn Ysgol Gynradd Pencoed, mae Alison Garza, sy'n athrawes gofal ar gyfer plant sydd ag awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Pencoed, yn gweithio hanner diwrnod pob pythefnos.

Dywedodd: “Mae fy rôl o ddydd i ddydd wedi newid yn llwyr – gyda'r plant yn yr hyb rydym wedi bod yn adeiladu cuddfannau yn ardal goedwig hyfryd yr ysgol, chwarae mig a helpu gyda gwaith ar-lein.

“Gyda fy nisgyblion fy hun, rwy'n gorfod cyfathrebu drwy gyswllt fideo, gan hyfforddi rhieni ar sut i gynnal gwersi a darparu cymorth ar-lein gan fod rhai yn cael trafferthion ag ymddygiad eu plant a cheisio'u cymell i gwblhau eu gweithgareddau.

“Mae'n her go iawn i beidio â bod yno er mwyn cynorthwyo'r plant â'u gwaith, fel arfer gallwn ddarparu addysg unigol iawn. Mae hefyd yn peri cryn ddigalondid i beidio â gallu gweld y plant yn ystod y cyfnod hwn gan mai tymor yr haf yw’r adeg y mae'r plant i'w gweld ar eu gorau, ar ôl cael dau dymor o weithio'n galed iawn.”

Mae Delyth Davies, sy'n oruchwylydd a swyddog llesiant yn Ysgol Gynradd Llangrallo, yn gweithio dau ddiwrnod yn Hyb y Dwyrain bellach.

Dywedodd: “Mae plant yn gofyn llawer o gwestiynau, mae gan rai fynediad i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac maen nhw'n clywed eu rhieni'n siarad am gyfraddau marwolaeth ar draws y wlad.

“Maen nhw'n ofnus, dydyn nhw ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. Fel oedolion, rydyn ni'n ansicr o'r hyn sy'n digwydd, ond iddyn nhw mae'n ddeg gwaith yn waeth.

“Rhan fawr o'r rôl yw sicrhau eu bod nhw i gyd yn iawn ac i wneud yn siŵr eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn hapus, a'u bod yn cadw'n brysur. Rydyn ni'n ceisio gwneud iddynt deimlo fel eu bod gartref gyda mynediad i rywfaint o waith ysgol, ond hwyl hefyd, rydyn ni wedi ymladd â dŵr a gwneud cuddfannau.”

Dywedodd Claire Nicholas, sy'n ddirprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Maes yr Haul, ac yn gyd-arweinydd yr hyb sydd wedi'i leoli yn yr ysgol: “Er mai nifer gymharol fach o deuluoedd sy'n dod i'r hyb, tua 30-40 bob wythnos, pan rydym yn arfer â chael dros 500 o blant yn Ysgol Gynradd Maes yr Haul, mae'r teuluoedd yn hynod ddiolchgar i staff yr ysgol am eu galluogi i gyflawni eu swyddi fel gweithwyr allweddol.

“Mae awyrgylch cefnogol iawn yn yr hyb ac mae gennym amrediad o benaethiaid, dirprwy benaethiaid, athrawon dosbarth a staff cynorthwyol yn gwirfoddoli o un wythnos i'r nesaf. Mae'r plant yn cael mynediad i amrediad o weithgareddau drwy gydol y dydd, ond mae gofalu am eu llesiant yn allweddol i'r hyn rydym yn ei wneud.” 

A dywedodd Jemma Evans, sy'n aelod o'r uwch dîm arwain ac yn athrawes blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Penybont ac sydd hefyd bellach yn cydlynu ei hysgol yn yr Hyb Canolog: “Bob dydd Iau rwy'n teimlo mor emosiynol wrth glapio ar drothwy fy nrws ar gyfer gweithwyr allweddol, nhw yw'r arwyr. Dwi mor ddiolchgar am eu dewrder ac ymrwymiad.”

Roedd gorfod dod i arfer ag amgylchiadau ysgol gwahanol, cydweithwyr newydd a phlant gwahanol mor sydyn, yng nghanol ansicrwydd mawr yn frawychus i lawer o staff, ond rydym yn hynod o falch o sut mae ein hysgolion wedi wynebu'r her hon, gan gadw'n plant yn hapus ac yn ddiogel.

Gyda thimau gweinyddu, sydd hefyd yn rhan o staff yr hyb, yn cymryd cyfrifoldeb dros y gwaith papur dyddiol sy'n cael ei anfon at yr awdurdod lleol, mae'n wir ei bod wedi bod yn ymdrech tîm anhygoel.

Mae'n dangos pa mor anhunanol ac ymrwymedig yw ein staff mewn ysgolion wrth gefnogi plant ein gweithwyr allweddol – maen nhw'n chwarae rhan bwysig iawn, gan leddfu'r pwysau sydd ar deuluoedd sy'n gwneud gwaith hanfodol yn ystod yr argyfwng hwn, ac ni allwn ddiolch digon iddynt.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Chwilio A i Y