Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arwyr Di-glod: Ein holl wirfoddolwyr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Maent wedi bod yn achubiaeth i nifer o breswylwyr ers dechrau pandemig y coronafeirws - gan siopa ar eu cyfer, casglu eu presgripsiynau, dosbarthu nwyddau a chysylltu’n rheolaidd â’r rheini sy'n unig neu'n orbryderus wrth warchod neu hunanynysu er mwyn cael sgwrs gyda nhw.

A hwythau wedi cofrestru yn eu cannoedd, y cyfan y mae byddin gwirfoddolwyr y fwrdeistref sirol wedi bod eisiau ei wneud yw helpu eu cymuned yn ystod y cyfnod hwn. Ac mae'r rheini sydd wedi derbyn eu help yn dweud na fyddent wedi goroesi hebddynt.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) wedi bod yn goruchwylio'r gwaith ac mae'r gwirfoddolwyr a'r rheini sydd angen cymorth wedi cysylltu â'r gymdeithas er mwyn cofrestru. 

Cofrestrodd Mel Cameron o Frynmenyn fel gwirfoddolwr yn gynnar ar ôl gweld apêl am wirfoddolwyr yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi gwirfoddoli’n aml ar gyfer sefydliadau fel Ambiwlans Sant Ioan.

Dywedodd: “Rwy'n gweithio'n llawn amser o gartref ar hyn o bryd ond roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i helpu – rydw i wedi bod yn helpu'r rhai nad ydynt yn gallu mynd allan, gan gasglu eu rhestrau a siopa ar eu rhan ym mhle bynnag maen nhw eisiau i mi fynd.

“Rydw i wedi casglu presgripsiynau a phethau fel llyfrau ar gyfer pobl o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr. Os ydw i'n mynd at y fferyllydd i gasglu presgripsiynau ar gyfer chwech o bobl, mae hyn yn golygu bod chwe unigolyn yn llai yn gorfod mynd i mewn felly mae’n lleihau’r risg o drosglwyddo'r haint i bawb arall. 

“Mae pawb wedi bod mor ddiolchgar. Mae nifer o bobl yn ynysig – nid wyf wedi cwrdd â nhw erioed o'r blaen.  Byddwn i wedi cerdded heibio'r bobl hyn ar y stryd heb wybod pwy oeddent, mae wedi bod yn braf iawn siarad â nhw.

“Mae'n ymwneud â rhoi yn ôl i'r gymuned, mae helpu pobl sydd angen cymorth yn bwysig.”

Mae Louise Jenkins o Bencoed wedi bod yn wirfoddolwr sy'n ymgyfeillio, gan gysylltu â’r rheini sy'n agored i niwed i wirio a oes ganddynt eu meddyginiaeth a digon o fwyd, ac i sgwrsio â nhw.

Dywedodd: “Y cyfan roeddwn i eisiau ei wneud oedd helpu. Roedd fy ngwaith wedi dod i ben ac roeddwn yn teimlo ychydig yn ddiwerth. Ni fyddech yn credu faint mae pobl yn gwerthfawrogi galwad ffôn. Nid oes gan rai pobl unrhyw deulu neu unrhyw un i siarad ag ef - maent ond yn cyfathrebu â chi.

“Mae gen i un fenyw rwy'n ei ffonio bob dydd ar yr un amser, rydym yn sgwrsio am y cyfyngiadau symud, yr hyn sydd ar y teledu, siopa, unrhyw beth i godi ei hysbryd.”

Daeth Nick Johnson sy'n gweithio o gartref ar hyn o bryd ar draws gwefan Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli.

Dywedodd: “Gwelais eu bod yn chwilio am bobl i ddosbarthu presgripsiynau a meddyliais fod hynny'n rhywbeth y gallwn ei wneud, siaradais â fy moss ac roedd yn hapus i mi gymryd ychydig o oriau i ffwrdd bob wythnos.

“Roedd yn rhywbeth roeddwn i'n gallu ei wneud ar unwaith, rwyf wedi bod yn casglu a dosbarthu presgripsiynau ar gyfer trigolion yn Wildmill, Pen-y-bont ar Ogwr, Llidiard, Llangrallo a Bracla.

“Roeddwn i am fod yn gallu gwneud rhywbeth – mae hwn yn gyfnod digyffelyb, roeddwn i'n teimlo y dylem oll dynnu at ein gilydd.

“Y foment felysaf oedd pan ddosbarthais bresgripsiwn i gwpl hŷn a welodd fi'n dod, roedd y gŵr bonheddig yn chwifio o un ffenestr gan roi ei fodiau i fyny tra roedd ei wraig yn chwythu cusanau.”

Dywedodd Peter Bradley, wnaeth ymddeol o’r gwasanaeth tân yn ddiweddar, ei fod am roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Dywedodd: “Gyda COVID-19, roeddwn i'n gwybod y byddai'r GIG yn wynebu anawsterau ac roedd rhaid i ni ei gefnogi. 

“Rwyf mewn sefyllfa ble mae gen i ychydig o amser rhydd ac roedd angen i mi wneud rhywbeth gwerth chweil yn ystod y cyfnod hwn – rydw i wedi bod yn mynd â phresgripsiynau i'r rheini sy'n agored i niwed mewn lleoedd fel Bryncethin, Sarn, Abercynffig a Brynmenyn.”

Dywedodd Janet o Borthcawl nad oedd yn gwybod beth y byddai wedi'i wneud heb help gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ei saithdegau, mae hi wedi gorfod ymdopi â bod yn ynysig gartref ond hefyd gyda cholli ei brawd wnaeth farw o'r coronafeirws rhai wythnosau yn ôl.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn ofnadwy. Yn amlwg, nid oeddwn wedi gallu mynd i'w angladd a oedd yn digwydd ar ochr arall Casnewydd.

“Dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn wedi'i wneud heb y bobl hyn. Ar wahân i unrhyw beth arall, roeddwn i'n teimlo ar chwâl yn llwyr, nid oes un ffordd y byddwn wedi gallu croesi stepen y drws i fynd i siopa.

“Rwy’n gwbl unig, collais fy ngŵr rai blynyddoedd yn ôl – dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi'i wneud.

“Rwy'n credu bod y gwirfoddolwyr yn hollol wych, ni allaf fynegi pa mor ddiolchgar ydwyf am eu cymorth. Clywais amdanynt trwy lyfryn a ddaeth trwy fy mlwch llythyrau – maen nhw wedi gwneud fy siopa a chasglu fy mhresgripsiynau.”

Mae Janet yn edrych ymlaen at weld ei hwyrion ac wyresau, y mae un ohonyn nhw'n cynllunio'i phriodas ar gyfer y flwyddyn nesaf, a gweld ei chwaer-yng-nghyfraith a'i nith a'i nai pan fydd rheolau'r cyfyngiadau symud yn cael eu codi.

Dywedodd: “Digwyddodd y cyfyngiadau symud dros nos – rwyf wedi gwylio mwy o deledu, darllen mwy o lyfrau a gwneud mwy o jig-sos nag erioed o'r blaen yn fy mywyd. Dylwn i ddim cwyno gan fod cymaint o bobl mewn sefyllfa lawer gwaeth.”

Dywedodd Frances o Ogledd Corneli: “Ni fyddwn wedi goroesi heb BAVO, maen nhw wedi bod yn rhyfeddol, yn rhyfeddol dros ben.

“Maen nhw'n mynd â’m ci am dro, maen nhw'n casglu fy mwyd ac mae menyw yn fy ffonio bob yn ail ddydd ac rydym yn cael sgwrs hyfryd. Rydw i wrth fy modd.

“Rwy'n 80 oed ac roeddwn mewn lle da ar y dechrau gyda rhewgell lawn, ond dechreuodd wagio'n gyflym iawn. Rwyf wedi bod yn hunanynysu am 14 o wythnosau. Mae fy wyrion yn ffonio i weld a wyf yn iawn, ond maen nhw yn Lloegr.

“Dosbarthodd y fferyllydd wybodaeth ynglŷn â BAVO – doeddwn i erioed wedi clywed amdanynt o'r blaen ond rwyf wedi bod yn dweud wrth bawb amdanynt.

“Mae menyw ifanc yn mynd â’m chi am dro ac mae menyw arall nad wyf erioed wedi cwrdd â hi o'r blaen yn fy ffonio a byddwn yn cael sgwrs. Mae'n llenwi fy niwrnod, mae wedi achub fy iechyd meddwl.  Nid oes unrhyw beth yn waeth na bod yn gaeth yn y tŷ a bod popeth yn ddistaw. Ni allaf roi digon o glod iddynt.”

Yn ystod mis Ebrill a mis Mai, cofrestrodd mwy na 1,000 o wirfoddolwyr gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) mewn ymateb i’r pandemig COVID-19.

Dywedodd Heidi Bennett, prif weithredwr BAVO: “Rydym wedi cael ein rhyfeddu gan haelioni a charedigrwydd ein trigolion lleol.

“Gan fod yr ymateb wedi bod mor wych, gwnaethom lenwi nifer o'r swyddi gwag ar gyfer gwirfoddolwyr yn gyflym iawn, felly mae nifer o wirfoddolwyr ar gael nad ydym wedi gallu eu defnyddio eto.  Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio dros amser ac wrth i wirfoddolwyr ddychwelyd i'r gwaith neu eu gweithgareddau bob dydd, rydym yn gobeithio y bydd nifer o'r gwirfoddolwyr sy'n weddill yn gallu camu i'r adwy. Byddwn yn cysylltu â gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru yn ôl yr angen.

“Diolch i bob un o'n gwirfoddolwyr am helpu pobl sy'n agored i niwed sy'n byw yn ein cymunedau yn ystod y cyfnod mwyaf heriol hwn.”

Mae gwirfoddolwyr bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn hollbwysig ar gyfer diogelu iechyd a llesiant nifer o'n trigolion.

Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu holl garedigrwydd a'u hymdrechion i sicrhau bod gan y rhai sy'n gwarchod neu’n ynysu fynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.

Dywedodd Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru yma

Y cyngor gwirfoddol sirol ar gyfer bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw BAVO ac mae’n gweithredu fel sefydliad ymbarél ar gyfer elusennau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol.

Mae'n gallu paru sgiliau, diddordebau a phrofiadau pobl i’r angen mwyaf perthnasol. Bydd unrhyw un sy'n cofrestru'n gallu cael mynediad i hyfforddiant ar-lein am ddim fel rheoli heintiau, diogelu, iechyd a diogelwch, codi a chario, gwerthoedd gofalu, a hylendid bwyd.

Gall BAVO hefyd ymgymryd â gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn cefnogi gwasanaethau rheng flaen fel ysbytai neu wasanaethau plant ac oedolion.

Fel arall, gall BAVO eich cysylltu â grwpiau lleol i ddarparu cymorth pryd a phan fydd ei angen, a'ch cysylltu ag eraill yn y gymuned.

Chwilio A i Y