Arweinydd yn croesawu’r newyddion am setliad y gyllideb
Poster information
Posted on: Dydd Iau 19 Rhagfyr 2019
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r newyddion y bydd yr awdurdod yn derbyn setliad uwch na’r hyn oedd i’w ddisgwyl yn wreiddiol ar gyfer 2020-21.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyngor yn derbyn 4.7% yn fwy na chyllideb y llynedd. Er nad yw hyn yn adfer cyllid yr awdurdod i’r lefelau blaenorol, mae’n cynrychioli’r cynnydd sylweddol cyntaf mewn cyllid grant craidd ers bron i 12 mlynedd.
Ynghyd ag adolygu rhai o’i gynlluniau ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd y cyngor yn defnyddio’r arian i helpu i ddiwallu’r pwysau ar gyllid sy’n cynnwys costau ychwanegol o ran addysg, gwasanaethau cymdeithasol, cyflog a phensiynau athrawon a llawer mwy.
Hefyd, bydd y cyngor yn edrych ar sut gallai’r arian gael ei ddefnyddio i leihau rhai o’r gostyngiadau mwy heriol ac anodd, a’r toriadau mewn gwasanaethau.
Rwy’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru, yn arbennig i’r Prif Weinidog, i’r gweinidog cyllid ac i’r gweinidog llywodraeth leol am wrando ar ein pryderon ynghylch y pwysau mawr sy’n wynebu’r gwasanaethau rheng flaen fel ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.
Yn 2019-20 bydd yn costio tua £270.8m i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddarparu amrywiaeth lawn o wasanaethau cyhoeddus ar gyfer 142,000 o breswylwyr.
Rydym yn falch iawn o’r cynnydd hwn i’n cyllid grant craidd a nawr byddwn yn adolygu ein cynlluniau ariannol gwreiddiol ar gyfer 2020-21 i wneud yn siŵr y gall yr arian gael ei ddefnyddio mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.
Arweinydd y Cyngor, Huw David