Arweinydd yn cadarnhau newidiadau i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 06 Rhagfyr 2021
Mae’r Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cadarnhau bod newidiadau’n cael eu gwneud i strwythur Cabinet yr awdurdod lleol.
Mae’r Cynghorydd Nicole Burnett yn ymddiswyddo o’i rôl fel yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, ac mae’r portffolio’n mynd i ddwylo’r Cynghorydd Jane Gebbie.
Ymunodd y Cynghorydd Burnett, sy’n cynrychioli ward Morfa, â’r Cabinet ym mis Medi 2020. Yn gynghorydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers 2017, mae hi wedi gweithio fel hyrwyddwr swyddogol y cyngor dros ddiogelwch, gofalwyr, pobl hŷn, a phlant a phobl ifanc.
Mae’r Cynghorydd Jane Gebbie, sy’n cynrychioli’r Pîl, hefyd wedi bod yn gynghorydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers 2017. Mae hi wedi ymgymryd ag ystod o rolau goruchwylio a chraffu, y pwyllgor Cydraddoldeb a mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Burnett: “Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser gweithio fel yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ac rwyf wedi mwynhau’r rôl yn fawr.
"Oherwydd fy mod angen mynd i’r afael â rhai materion personol, nid wyf yn credu y byddaf yn gallu rhoi'r sylw y mae’r rôl ei angen ac yn ei haeddu dros y misoedd nesaf. Felly, rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i ymddiswyddo, fel y gall y portffolio gael ei basio ymlaen i rywun sydd mewn sefyllfa i roi ei ffocws llawn iddo.
“Hoffaf ddiolch i’r Arweinydd a'r Cabinet am fy nghroesawu, ac am y cymorth maent wedi’i roi i mi. Rwy’n gwybod y bydd y portffolio mewn dwylo diogel.”
Mae’r Cynghorydd Burnett wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i wasanaethau cymdeithasol a chymorth cynnar o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cynnig cyngor a chefnogaeth diwyro i’w chydweithwyr yn y Cabinet ac i mi fy hun fel Arweinydd.
Boed yn cyflwyno ymrwymiad y cyngor i’r cyflog byw neu ymdrechion i drawsnewid yr hen Neuadd Evergreen yn hwb ieuenctid newydd ar gyfer plant a phobl ifanc, mae’r Cynghorydd Burnett wedi chwarae rôl allweddol, ac wedi bod ar flaen y gad wrth gyflwyno popeth. Rwy’n hynod ddiolchgar iddi am ei hymrwymiad a’i phroffesiynoldeb y mae hi’n parhau i’w arddangos.
Hoffaf hefyd gynnig croeso cynnes i'r Cynghorydd Jane Gebbie. Fel cynghorydd lleol ymroddedig sy'n parhau i fod wedi ymrwymo i’r agenda cydraddoldeb ac sy'n credu'n gryf mewn tegwch a chyfiawnder cymdeithasol, rwy’n siŵr y bydd hi’n ased gwerthfawr i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth iddi ymgymryd â mantell Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.
Dywedodd y Cynghorydd David