Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arweinydd y Cyngor yn cyhoeddi rhybudd llym cyn y broses o gynllunio'r gyllideb

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David wedi cyhoeddi rhybudd llym cyn yr ymarfer o bennu cyllideb blynyddol eleni.

Fel nifer o awdurdodau lleol eraill, mae’r cyngor yn wynebu her ariannol ddigynsail dros y blynyddoedd i ddod, sy’n rhagweld y gallai fod angen gostyngiadau gwariant hyd at £20m yn y cyfnod ariannol 2023-2024 i fantoli cyllideb y Cyngor.

Mae’r awdurdod lleol yn darparu hyd at 800 o wasanaethau yn amrywio o addysg a gwasanaethau cymdeithasol i blant a phobl hŷn, cefnogi pobl sy’n ddigartref trwy weithredu prosiectau adfywio a rhaglenni moderneiddio ysgolion.

Bob blwyddyn, fel rhan o’r broses o osod y gyllideb, mae’r cyngor yn ymgynghori gyda’r cyhoedd i gael eu barn ar yr hyn maen nhw’n ei feddwl ddylai fod yn feysydd o flaenoriaeth ar gyfer dyrannu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, ac archwilio’r safbwyntiau hynny yn erbyn cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn helpu i lywio’r Cyngor ar benderfyniadau ar gyfer pennu cyllideb gytbwys a lefelau’r dreth gyngor.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David: “O ganlyniad i fesurau llymder Llywodraeth y DU dros y deng mlynedd diwethaf, rydym ni wedi sicrhau cyfanswm o £62m mewn gostyngiadau cyllidebol.

“Fodd bynnag, rydym ni’n dal i brofi cynnydd yn y galw ar ein gwasanaethau, gyda nifer digynsail o bobl hŷn a phlant agored i niwed angen cymorth gan ein timau gwasanaethau cymdeithasol, a’r nifer uchaf erioed o deuluoedd digartref angen llety dros dro.

“Mae hyn ynghyd â'r argyfwng costau byw presennol, chwyddiant cynyddol, a chostau ynni sy’n codi’n syfrdanol yn golygu bod ein cyllid a'n gwasanaethau o dan straen aruthrol. 

“Mae angen i ni fod yn glir na fydd gan y cyngor unrhyw ddewis ond gwneud rhywfaint o benderfyniadau anodd dros ben yn y blynyddoedd nesaf. Er y byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i flaenoriaethu symleiddio gwasanaethau, o ystyried maint y diffyg, mae'n anochel y bydd rhaid i ni wneud toriadau i wasanaethau pwysig er mwyn darparu cyllideb gytbwys.

“Yn fuan, bydd y cyngor yn ymgynghori ar ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, i gasglu barn pobl ar gynlluniau arfaethedig i gyflawni arbedion, cyn cytuno ar ei gyllideb 2023/24.

“Gyda hyn mewn golwg, ni allaf bwysleisio’n ddigon cryf pa mor bwysig yw’r adborth gan ein cymunedau lleol yn ystod y cyfnod o bennu’r gyllideb. Rydym am sicrhau ein bod ni’n gwneud y penderfyniadau iawn i’n bwrdeistref sirol, ac rydym yn dymuno gweithio gyda’n partneriaid a’n trigolion i gyflawni hyn.

“Byddwn i’n eich annog i gymryd rhan yn y broses ymgynghori, rhannu eich meddyliau gyda ni a rhoi adborth ar ddarpariaeth y gwasanaethau hynny sydd wir o bwys i chi.”

Bydd rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad ar gael yn fuan.

Chwilio A i Y