Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arolwg i helpu i lunio dyfodol cymorth i fusnesau

Gwahoddir busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gymryd rhan mewn arolwg i asesu effaith pandemig Covid-19 a Phrydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr economi leol.

Mae Tasglu Economaidd newydd Sir Pen-y-bont ar Ogwr eisiau deall y prif broblemau mae cwmnïau yn eu hwynebu yn ystod y sefyllfa bresennol, eu dyheadau ar gyfer y dyfodol a pha gymorth yr hoffent ei gael wrth fynd ymlaen. 

Mae'r defnyddir y canfyddiadau i ddatblygu cynllun economaidd i helpu busnesau i addasu i'r tirlun economaidd sy'n parhau i newid.

Bydd yn cynnwys pethau megis cymorth wrth adfer ar ôl pandemig coronafeirws, gwella gwytnwch a darparu cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddi sgiliau a chyflogaeth yn ogystal â busnes newydd.

Mae'r cyngor a sefydliadau eraill wedi cynnig llawer o gymorth i'r gymuned fusnes leol yn ystod pandemig Covid-19. Mae hyn yn cynnwys gwneud 6,500 o daliadau i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, oedd yn costio mwy na £42.4m.

Mae arian newydd ar gael drwy Dasglu Economaidd Sir Pen-y-bont i fusnesau, ac mae'n cefnogi busnesau newydd ac addasiadau i eiddo busnesau, sy’n helpu i gefnogi'r economi yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt.

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y busnesau sy'n cysylltu â'r cyngor ar gyfer cyngor a chymorth ychwanegol, a bydd yr arolwg hwn yn helpu i lywio'r ffordd orau o wneud hyn yn y dyfodol. Rwy'n annog pob busnes lleol i gymryd rhan a dweud eu dweud.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau, ewch i wefan cymorth busnesau Covid-19 y cyngor.

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i wefan Arolwg Ymgysylltu Busnes y cyngor.

Chwilio A i Y