Arian gan y Loteri tuag at ailddatblygu Neuadd y Dref
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 02 Gorffennaf 2019
Cafwyd grant o £774,900 gan y Loteri Genedlaethol tuag at brosiect ailddatblygu cyffrous Neuadd y Dref ym Maesteg.
Mae'r arian yn gam pwysig arall ymlaen i'r prosiect, sydd â’r nod o atgyweirio ac ailwampio'r adeilad eiconig, sy’n 138 mlwydd oed, a darparu cyfleusterau newydd modern ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn parhau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau gweddill y cyllid sy'n angenrheidiol ar gyfer y prosiect, sydd werth £6m.
Mae angen cyllid o amrywiol ffynonellau ar gyfer prosiect ar y raddfa hon felly rydym yn falch dros ben o gael y cymorth hanfodol hwn gan y Loteri Genedlaethol. Fesul tipyn, mae'r pecyn ariannu cyflawn yn dod at gilydd ac rydym yn disgwyl cael canlyniad dau gais arall am arian o fewn y mis neu ddau nesaf.
Mae pob carreg filltir ariannu yn golygu ein bod un cam yn nes at allu cyflawni’r holl waith sydd gennym yn yr arfaeth ar gyfer yr adeilad hanesyddol pwysig hwn. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu neuadd y dref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy wneud gwaith atgyweirio hanfodol i adeiledd yr adeilad rhestredig Gradd ll a chreu canolfan lewyrchus ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau.
Nid yn unig rydym am sicrhau bod neuadd y dref yn parhau i chwarae rhan ganolog ym mywyd Cwm Llynfi, ond rydym hefyd am gryfhau ei safle fel lleoliad diwylliannol i'r gymuned gyda gofodau perfformio newydd, cyfleusterau cymunedol a gwell hygyrchedd i ymwelwyr.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio
Ychwanegodd y Cynghorydd Smith: “Rwyf hefyd yn falch o glywed bod unedau unigol yn y farchnad awyr agored yn ffynnu gan fod ein gweledigaeth yn cynnwys gwneud sgwâr y farchnad awyr agored yn ganolbwynt pwysicach fyth i'r dref.”
Mae'r cynlluniau ar gyfer Neuadd y Dref ym Maesteg yn cynnwys troi'r hen farchnad dan do ar y llawr isaf yn llyfrgell newydd ochr yn ochr â chanolfan treftadaeth a gwirfoddoli, caffi a mannau gwaith. Byddwn hefyd yn ymestyn y llochesi bws y tu allan ac yn darparu toiledau ac ystafell gyda lleoedd newid cwbl hygyrch.
Ar y llawr cyntaf, bydd canolfan celfyddydau perfformio amlswyddogaethol/y brif neuadd ynghyd â llwyfan, ystafelloedd newid, bar a theatr stiwdio lai, fwy cartrefol. Byddwn yn cadw'r balconi ac yn ei adnewyddu.
Bydd y ddau lawr yn cael eu cysylltu ag atriwm gwydr modern a chyntedd o Stryd Talbot.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Rydym wrth ein bodd bod y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gweledigaeth uchelgeisiol i ddiogelu a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Neuadd y Dref ym Maesteg er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau, ac mae’n ein cefnogi â grant sylweddol.
“Drwy'r sesiynau ymgysylltu rydym wedi’u cynnal â sefydliadau, grwpiau a phobl leol, rydym wedi dod i ddeall yn iawn gymaint mae'r Neuadd yn ei olygu i hanes a bywyd diwylliannol y dref a’i chymuned, a bod yr adeilad mor agos i galon gymaint o bobl.
“Bydd y prosiect ailddatblygu yn trawsnewid cyflwr a hygyrchedd Neuadd y Dref, ond bydd hefyd yn cynnig cyfle unigryw i ddathlu treftadaeth y lleoliad, y dref a Chwm Llynfi drwy raglen gyffrous o ddehongli, gweithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau ar y cyd.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bobl Cwm Llynfi, ac i'r cymdeithasau a’r grwpiau lleol sy'n parhau i gydweithio’n agos â ni – nid yw byth yn anodd dangos i gyllidwyr gymaint o gefnogaeth sydd i'r prosiect hwn.”
Dywedodd Richard Bellamy, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymru: “Diolch i'r rheini sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol, bydd adeilad rhestredig Gradd ll Neuadd y Dref ym Maesteg yn cael adfywiad gan ddod â budd i bobl leol ac i ymwelwyr â'r ardal fel ei gilydd. Gan greu 18 o swyddi newydd yn y broses, yma y bydd cartref newydd llyfrgell y dref yn ogystal â llawer o gyfleusterau cymunedol newydd, gan osod yr adeilad hanesyddol hwn yn ôl wrth galon y gymuned unwaith eto.”