Argymell profion Covid-19 ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 27 Awst 2021
Gyda’r tymor ysgol newydd yn dechrau yn gynnar ym mis Medi, argymhellir y dylai disgyblion ysgolion uwchradd gymryd prawf llif unffordd cyn eu diwrnod cyntaf yn ôl.
Bydd gan nifer o ddisgyblion brofion llif unffordd yn eu cartrefi yn barod, ar ôl eu defnyddio cyn i’r flwyddyn ysgol ddod i ben ym mis Gorffennaf.
Fodd bynnag, yn achos disgyblion newydd ym Mlwyddyn 7 nad oedd modd iddynt gael gafael ar brofion mewn ysgolion o’r blaen, a hefyd yn achos disgyblion eraill y mae eu cyflenwadau wedi gorffen, argymhellir bod rhieni, gofalwyr neu ddisgyblion yn casglu’r profion o safleoedd profi neu fferyllfeydd lleol, neu’n archebu profion ar-lein er mwyn iddynt gael eu danfon i’w cartrefi.
Dim ond pobl nad ydynt yn arddangos symptomau’r coronafeirws a ddylai ddefnyddio profion llif unffordd.
Argymhellir y dylai’r disgyblion gymryd dau brawf llif unffordd, gyda bwlch o dridiau rhyngddynt, yn ystod yr wythnos cyn iddynt fynd yn ôl i’r ysgol.
Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gellir casglu profion llif unffordd saith diwrnod yr wythnos, rhwng 8am-1pm, o’r cyfleuster profi hirdymor ym maes parcio’r Neuadd Fowlio yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr. Nid oes angen trefnu ymlaen llaw.
I gael manylion am sut i archebu profion ar-lein a threfnu iddynt gael eu hanfon i’ch cartref, neu i ddod o hyd i fferyllfa leol lle gallwch eu casglu, edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yn achos disgyblion sydd wedi cael prawf PCR positif ar gyfer Covid-19 yn y 90 diwrnod diwethaf, nid argymhellir eu bod yn cymryd prawf llif unffordd ar hyn o bryd.
Fe fydd disgyblion sy’n cymryd profion llif unffordd cyn dechrau’r flwyddyn ysgol yn helpu i leihau’r tebygolrwydd y bydd achosion o Covid-19 i’w cael yn ein hysgolion, a hefyd yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yn cael ei drosglwyddo yn ein cymunedau.
Y nod yw mynd ati’n gyflym i ddod o hyd i’r rhai sy’n cario’r feirws yn ddiarwybod er mwyn iddyn nhw allu hunanynysu. Mae nifer o bobl sy’n dioddef o Covid-19 yn cael symptomau ysgafn, neu ddim symptomau o gwbl, ond maen nhw’n dal i allu lledaenu’r feirws.
Mae cynnal prawf Covid-19 yn syml ac yn gyflym, a gellir ei wneud gartref heb fod angen mynd i ganolfan brofi neu bostio samplau i labordy i’w dadansoddi. Mae’r profion yn hawdd eu defnyddio ac mae modd cael y canlyniadau o fewn 30 munud. Pe bai’r prawf yn bositif, dylech hunanynysu a threfnu prawf PCR. Bydd ysgolion yn parhau i gynnig profion llif unffordd yn ystod y tymor.”
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio