Arddangosfeydd tân gwyllt ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Hydref 2018
Mae cynghorau tref a chymuned lleol wedi trefnu nifer o arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y mis Tachwedd hwn. Dyma fanylion rhai ohonynt:
Dydd Gwener 2 Tachwedd
- Bracla: Bydd sioe sŵn a golau tân gwyllt, wedi'i threfnu gan Gyngor Cymuned Bracla, yng nghefn Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath giatiau yn agor am 6pm, i ddechrau am 6:30pm. Mae'r ffioedd mynediad yn £1 i oedolion ac mae hi'n am ddim i blant.
Dydd Sadwrn 3 Tachwedd
- Porthcawl: Mae perchnogion ffair Porthcawl yn trefnu coelcerth Traeth Coney, a fydd ar dân rhwng 4pm ac 11pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.
- Porthcawl: Mae Hi-Tide Porthcawl yn trefnu arddangosfa tân gwyllt ar Draeth Coney sy'n dechrau am 7.30pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.
- Tondu: Mae Clwb Criced Tondu yn trefnu arddangosfa tân gwyllt sy'n dechrau am 7pm. Mynediad yn £2 y pen. Bydd cerddoriaeth fyw hefyd yn y clwb ar ôl yr arddangosfa, sy'n dechrau am 8:30pm.
Dydd Sul 4 Tachwedd
- Bryntirion: Mae Cyngor Cymuned Trelales yn trefnu arddangosfa tân gwyllt yng Nghanolfan Gymunedol Bryntirion sy'n dechrau am 7pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.
- Llangrallo: Mae Cyngor Cymuned Llangrallo yn trefnu arddangosfa tân gwyllt ar gae rygbi Heol y Cyw. Bydd yr arddangosfa yn dechrau tua 6pm ac mae mynediad yn rhad ac am ddim.
Dydd Llun 5 Tachwedd
- Pencoed: Bydd arddangosfa tân gwyllt wedi'i threfnu gan Gyngor Tref Pencoed ar gaeau chwarae Ffordd Felindre, gan ddechrau tua 6.15pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.
- Maesteg: Bydd Clwb Rotari Maesteg yn cynnal ei arddangosfa tân gwyllt flynyddol yng Nghlwb Rygbi 7777 a bydd y giatiau yn agor am 6:30pm, i ddechrau am 7:30pm Y tâl mynediad fydd £6 y pen i oedolion, neu £20 i deulu o bedwar, a £4 i blant rhwng 6 i 13 oed.
Rydym yn annog ein holl drigolion i gadw'n ddiogel y noson tân gwyllt hon a dilyn cyngor pob digwyddiad ar ddiogelwch.